Dr Zbig Sobiesierski
Ymunodd Dr Zbig Sobiesierski â’r Bwrdd yn 2014 fel aelod penodedig. Mae Zbig hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.
Cafodd Zbig ei eni a’i fagu yn Abertawe. Graddiodd o Brifysgol Exeter gyda gradd a Doethuriaeth mewn Athroniaeth mewn ffiseg.
Dychwelodd Zbig i Gymru yn 1986, gan wneud gwaith ymchwil yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd.
Yn 1992, gadawodd Zbig Brifysgol Caerdydd a dod yn Athro Cyswllt cyntaf Hitachi mewn Peirianneg Deunyddiau Cwantwm yn y Ganolfan Ymchwil ar gyfer Electroneg Cwantwm Rhyngwyneb, ym Mhrifysgol Hokkaido, Sapporo, Japan.
Ar ôl dod yn ôl i’r DU, bu Zbig yn gweithio fel darlithydd yn Adran Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd o 1993 tan 1996.
Yna, aeth ymlaen i astudio ar gyfer gradd Meistr yn y Gwyddorau mewn Cyfleu Gwyddoniaeth yn Techniquest / Prifysgol Morgannwg, cyn ddarlithio ar lefel Baglor yn y Celfyddydau mewn Gwyddoniaeth, Cymdeithas a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr.
Yn 1999, ymunodd Zbig â Chanolfan Dysgu Gydol Oes Prifysgol Caerdydd, a chafodd ddyrchafiad yn Uwch Ddarlithydd yn 2004. Yn 2008, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Astudiaethau, a phedair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ddyrchafiad yn Gyd Bennaeth y Ganolfan ac yn Gyd Ddeon Dysgu Gydol Oes.
Yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Caerdydd, mae Zbig wedi ymwneud llawer â’r prosesau sicrhau ansawdd, gan gynnwys dilysu ac ail-ddilysu rhaglenni, ac mae wedi bod yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Morgannwg a’r Brifysgol Agored.
Mae Zbig wedi bod yn aelod o Bwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd a’r Senedd ers 2010.