Ble Mae Nhw Nawr: Emily Heffernan - O Ddefnyddiwr Gwasanaethau Ieuenctid i Weithiwr Cymorth Ieuenctid
Pan gerddodd Emily Heffernan trwy ddrysau ei chanolfan ieuenctid lleol am y tro cyntaf yn 10 mlwydd oed, doedd ganddi ddim syniad y byddai hynny’n gosod y sylfaen ar gyfer ei gyrfa yn y dyfodol. Nawr, ar ôl cwblhau ei chymwysterau Agored Cymru Lefel 2 a Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid, mae Emily bellach yn gweithio o fewn yr un gwasanaeth a'i chefnogodd yn y gorffennol.
Cawsom gyfle i siarad ag Emily i glywed sut mae ei gyfra wedi datblygu ers cwblhau ei chymwysterau, a sut mae ei phrofiad ei hun yn dylanwadu ar ei gwaith heddiw.
Mae ei thaith i waith ieuenctid yn bersonol iawn. Ar ôl cael mynediad at Wasanaethau Ieuenctid Sir Fynwy trwy gydol ei phlentyndod a'i harddegau, profodd yn uniongyrchol yr effaith y gall gweithwyr ieuenctid ei chael.
“Fe wnaethon nhw wir fy helpu drwy gyfnodau anodd iawn. Roeddwn i bob amser yn eu gweld fel modelau rôl,” esboniodd.
Mae'r profiad hwnnw wedi aros gyda hi. Pan gafodd Emily gyfle i ddechrau ei chymhwyster Lefel 2 cyntaf, gwelodd hynny fel cyfle i roi yn ôl i’r sefydliad a oedd wedi rhoi cymaint o gefnogaeth iddi yn ystod ei phlentyndod.
Dywedodd, “Roeddwn i eisiau rhoi yn ôl, a rhoi'r un cyfleoedd i bobl ifanc ag a gefais i. Roedden ni i gyd yn ein harddegau unwaith, ac felly roeddwn i eisiau dangos iddyn nhw nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain. Mae nhw’n dweud fy mod yn rhan o'r gwasanaeth erbyn hyn!”
Dysgu drwy wneud
Un o'r agweddau mwyaf gwerthfawr o brofiad dysgu Emily oedd y gallu i weithio ochr yn ochr â'i chymhwyster.
Roedd modd iddi ddefnyddio ei dysgu mewn amser real yn hytrach na dilyn llwybr dosbarth yn unig, gan ddatblygu sgiliau ymarferol wrth fagu hyder yn ei rôl. “Dwi’n dysgu orau drwy wneud. Roedd gallu mynd i'r gwaith a defnyddio yr hyn roeddwn newydd ei ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth mawr.”
Fe helpodd y dull ymarferol hwn hi hefyd i oresgyn heriau blaenorol gydag addysg draddodiadol, gan ganiatáu iddi fagu hyder yn ei gallu. “Doeddwn i ddim yn teimlo'n academaidd yn yr ysgol, ond roedd hwn yn wahanol. Roedd yn fwy hamddenol, cefnogol, ac yn cael ei wneud ar eich cyflymder eich hun.”
Roedd y gallu i ddefnyddio yr hyn roedd hi'n ei ddysgu mewn amgylcheddau bywyd go iawn yn helpu Emily i ddatblygu sgiliau ymarferol a magu hyder yn gynnar yn ei gyrfa.
Magu hyder o’r diwrnod cyntaf
Trwy gydol ei chymhwyster, datblygodd Emily sgiliau allweddol mae hi nawr yn eu defnyddio'r ddyddiol yn ei gwaith, ac roedd hyn yn werthfawr iawn pan yn cyflwyno sesiynau mewn ysgolion a lleoliadau ieuenctid.
“Un o’r pethau mwyaf defnyddiol wnes i eu dysgu oedd gwaith grŵp,” eglurodd. “Roedd modd i mi gyflwyno sesiynau ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth ac fe roddodd y wybodaeth honno'r hyder i mi arwain y sesiynau yna.”
Roedd gallu rhoi'r dysgu ar waith ar unwaith yn helpu i atgyfnerthu ei dealltwriaeth a meithrin hyder mewn sefyllfaoedd go iawn. Ers cwblhau ei chymhwyster, mae rôl Emily wedi datblygu'n sylweddol.
Mae hi bellach yn gweithio ar draws sawl adran o’r gwasanaeth ieuenctid, gan gefnogi ystod eang o bobl ifanc a chymunedau. “Mae fy rôl i wedi tyfu'n bendant, Dwi'n cyflwyno sesiynau mewn ysgolion, yn cynnal gweithdai, trefnu tripiau, ac yn cynllunio gweithgareddau. Mae llawer mwy ymarferol nawr.”
Mae gweithio ar draws gwahanol leoliadau wedi ei helpu i ddatblygu hyblygrwydd a hyder. “Does dim dau ddiwrnod yr un fath, ac mae pob grŵp o bobl ifanc yn wahanol. Rydych chi’n dysgu i addasu eich dull yn dibynnu ar bwy rydych yn gweithio gyda nhw.”
Prosiect y mae hi'n falch ohono
Un o gyflawniadau balchaf Emily yw trefnu digwyddiad “Skate Jam” ar raddfa fawr.
Gan fanteisio ar ei diddordebau a'i phrofiadau ei hun, cynlluniodd a chyflwynodd y digwyddiad, gan sicrhau nawdd a dod â phobl ifanc, eu ffrindiau a'u teuluoedd o bob rhan o'r gymuned at eu gilydd. “Llwyddais i drefnu'r ddigwyddiad cyfan a chael tua £800 o nawdd gan siop sglefrio yng Nghaerdydd.”
Nid cynnig cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau yn unig oedd y ddigwyddiad hwn. Roedd hefyd ymdeimlad cryf o gymuned trwy gydol y diwrnod, rhywbeth mae Emily yn ei gofio’n dda. “Rhoddodd rhai o’r enillwyr eu gwobrau i eraill na allai fforddio offer. Roedd yn braf iawn gweld y math hwnnw o gefnogaeth rhyngddynt.”
Dywedodd Emily fod trefnu digwyddiadau fel hyn yn rhywbeth y mae hi'n ei fwynhau'n fawr gan weld yn uniongyrchol effaith gwaith ieuenctid ar bobl ifanc, gan nodi ei bod hi’n edrych ymlaen at gynllunio mwy o ddigwyddiadau fel hyn yn y dyfodol.
Addasu at anghenion pobl ifanc
Wrth i brofiad Emily dyfu, mae ei dull o weithio gyda phobl ifanc wedi datblygu hefyd.
Pwysleisiodd bwysigrwydd addasu i wahanol leoliadau ac unigolion. Boed yn gweithio mewn sesiynau mynediad agored neu grwpiau mwy penodol, dywedodd Emily wrthym ei bod yn addasu ei dull er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
“Y newid mwyaf yw fy hyder a deall sut i weithio gyda grwpiau gwahanol. Allwch chi ddim gweithio gyda phob grŵp yn yr un ffordd. Mae'n ymwneud â synhwyro'r awyrgylch a deall beth maen nhw ei angen. Er enghraifft, mae gweithio gyda grwpiau LHDTC+ yn gofyn am ddull gwahanol o gymharu gyda lleoliadau ieuenctid mynediad agored. Helpodd y cwrs i mi ddeall hyn, ac mae fy mhrofiad yn fy rôl wedi fy helpu i’w fireinio ymhellach. Mae'n ymwneud â meithrin perthnasoedd a gwybod pryd mae angen cefnogaeth ar rywun, o gymharu â phryd mai dim ond rhywun i wrando sydd ei angen arnynt.”
Edrych tuag at y dyfodol
Ar ôl darganfod angerdd dros ddysgu trwy ei chymhwyster, mae Emily bellach yn chwilio am gyfleoedd hyfforddi pellach, ac nawr yn ystyried symud ymlaen i wneud gradd yn y dyfodol.
“Fy nod yw parhau i ddysgu, ennill mwy o brofiad, a chymryd mwy o gyfrifoldeb yn fy rôl. Dwi eisiau bod y gweithiwr ieuenctid gorau y gallaf fod a pharhau i gael effaith gadarnhaol!”
Pan ofynnwyd iddi pa gyngor y byddai'n ei roi i'r rhai sy'n ystyried gyrfa ym maes gwaith ieuenctid, dywedodd Emily:
“Byddwn i'n dweud - ewch amdani! “Mae’n un o’r swyddi sy'n rhoi'r boddhad mwyaf. Gall hyd yn oed y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr i berson ifanc. Os ydych yn ansicr, peidiwch â gadael i hynny eich dal yn ôl. Os ydych yn teimlo y gallech wneud gwahaniaeth yna mae'n werth ei ddilyn. Mae pobl ifanc angen cefnogaeth, ac mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn wirioneddol bwysig. Mae eich tîm yn dod yn deulu. Mae nhw’n eich cefnogi chi gymaint ag rydych chi'n cefnogi’r bobl ifanc.”
Dychwelyd i'r dechrau
Mae taith Emily yn pwysleisio'r effaith barhaus y gall gwaith ieuenctid ei chael, nid yn unig ar y bobl ifanc y mae’n eu cefnogi, ond hefyd ar y rhai sy'n mynd ymlaen i adeiladu gyrfaoedd o fewn y maes.
O ddefnyddio gwasanaethau ieuenctid fel person ifanc i gyflwyno sesiynau, arwain prosiectau, a chefnogi eraill, mae ei stori hi'n enghraifft clir o sut gall y cyfleoedd a'r gefnogaeth gywir lunio llwybrau gyrfa ystyrlon.
Gyda dyheadau i barhau â'i hyfforddiant a symud ymlaen i addysg bellach, mae taith Emily yn dal i esblygu. Yr hyn sy'n parhau'n glir yw ei hymrwymiad i wneud gwahaniaeth, a sicrhau bod yr un gefnogaeth a'i helpodd hithau unwaith ar gael i’r genhedlaeth nesaf.