Beth allai astudio?

Mae amrywiaeth eang o Ddiplomâu Mynediad i Addysg Uwch ar gael, er enghraifft Gwyddoniaeth, Gofal Iechyd a'r Dyniaethau.  

Mae cyrsiau mewn pynciau penodol, er enghraifft Nyrsio neu'r Gwyddorau Cymdeithasol, yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am symud ymlaen i raglen Addysg Uwch benodol.

Mae cyrsiau eraill, megis Gwyddoniaeth neu'r Dyniaethau, yn cynnig gwybodaeth gefndir mwy cyffredinol er mwyn cael mynediad i raglenni Addysg Uwch amrywiol.

Chwiliwch yma i weld y rhestr lawn o gyrsiau Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.


Beth sydd wedi'i gynnwys mewn Diploma Mynediad i Addysg Uwch?

Mae pob cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn wahanol. 

Ond mae pob cwrs yn cynnwys y canlynol:

  • astudio pwnc academaidd cysylltiedig megis Nyrsio neu Fydwreigiaeth, ynghyd ag
  • elfen sgiliau orfodol.

Mae'r elfen sgiliau yn cynnwys pynciau tebyg i gyfathrebu, sgiliau astudio a rhifedd.

Mae gan rai ddysgwyr brofiad bywyd neu brofiad o weithio, ond yn aml mae angen cymorth arnynt i ddatblygu sgiliau astudio er mwyn dod yn ddysgwyr mwy hyderus ac annibynnol.


Faint o amser y bydd yn cymryd?

Gallwch astudio Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch ar sail amser llawn neu ran-amser.

Fel arfer, mae cwrs amser llawn yn cymryd blwyddyn. Bydd angen i chi astudio tua 16 awr yr wythnos yn y coleg yn ogystal â gwneud cryn dipyn o waith astudio annibynnol yn y coleg neu gartref.   

Neu, fel arall, mae rhai cyrsiau ar gael ar sail ran-amser. Mae'r rhain fel arfer yn cymryd dwy flynedd neu fwy.

Cewch gymryd hyd at bum mlynedd i ennill digon o gredydau i gael y Diploma Mynediad i Addysg Uwch.

Mae'r mwyafrif o gyrsiau yn dechrau ym mis Medi ac yn gorffen ym mis Mehefin. Mae rhai yn dechrau ym mis Ionawr neu Chwefror ac yn gorffen y flwyddyn ganlynol. 


Sut y byddai'n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol y cwrs.

Defnyddir gwahanol fathau o ddulliau asesu, yn dibynnu ar faes pwnc y cwrs.

Yn aml, bydd ystod o ddulliau asesu'n cael eu defnyddio, gan gynnwys y canlynol: 

  • aseiniadau, adroddiadau, traethodau, prosiectau ymchwil, gwaith maes,
  • cyflwyniadau ac
  • arholiad

Pa gymhwyster y byddai'n ei ennill?

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau eu cwrs yn llwyddiannus yn ennill Diploma Mynediad i Addysg Uwch.

Mae hwn yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac sy'n cael ei dderbyn fel dull mynediad i raglenni Addysg Uwch.


Ymhle rydw i'n gallu astudio?

Mae pob coleg addysg bellach yng Nghymru yn cynnig Diploma Mynediad i Addysg Uwch.

Mae llawer o golegau yn cynnal dyddiau agored ar gyfer darpar fyfyrwyr. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr gael rhagor o wybodaeth am y cwrs sy'n cael ei gynnig yn ogystal â chyfle i gyfarfod y tiwtoriaid a siarad â myfyrwyr presennol.

Rhestr o golegau


Faint mae'n costio?

Mae ffioedd yn amrywio, yn dibynnu ar y cwrs a'r coleg. 

Cysylltwch â'r coleg rydych wedi'i ddewis i gael cyngor ac arweiniad ar  ffioedd cyrsiau, costau ychwanegol a'r cymorth ariannol a allai fod ar gael.


Sut rydw i'n ymgeisio?

Gallwch ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.

Mae'r broses ymgeisio yn amrywio, yn dibynnu ar y cwrs a'r coleg.

Rydym yn cynghori dysgwyr i gysylltu â'r coleg maent wedi'i ddewis i gael cyngor, cymorth ac arweiniad penodol ar y broses ymgeisio. 

Mae rhai colegau yn gofyn bod ymgeiswyr yn dod i gyfweliad ffurfiol.  Mae hwn yn gallu cynnwys asesiad o sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Os bydd coleg yn teimlo bod angen i ddysgwr ddatblygu ei sgiliau a'i hyder er mwyn dangos bod y gallu ganddo i gwblhau Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn llwyddiannus, efallai y byddant yn awgrymu bod y dysgwr yn ymuno â chwrs cyn-Mynediad Lefel 2 megis Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach er enghraifft. 


Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru

Bob blwyddyn, rydym yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau anhygoel dysgwyr Mynediad i Addysg Uwch gyda'n gwobr fawreddog, Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch.

Dysgu mwy am ein Gwobr.