Mae'r cymwysterau Addysg Gysylltiedig â Gwaith (AGG) yn bodloni anghenion Gyrfaoedd a’r byd gwaith: fframwaith i bobl ifanc 11 i 19 oed yng Nghymru.
Mae'r cymwysterau yn bodloni gwahanol themâu Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith: cyrhaeddiad personol; chwilio am wybodaeth; deall y byd gwaith; arweiniad; a gwneud penderfyniadau a'u rhoi ar waith.
Mae'r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i fod yn barod am waith ac i gyfrannu'n sylweddol yn y gweithle, un ai mewn rôl wirfoddol neu rôl â thal.
Mae'r cymwysterau yn cefnogi dysgwyr i wneud y canlynol:
- gwireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol drwy gynllunio ac archwilio llwybrau gyrfa a chyflogaeth posibl
- deall y sgiliau, y gwerthoedd a'r agweddau sydd eu hangen yn y gweithle
- deall sut mae'r hyn maent yn ei ddysgu yn berthnasol i'w dyfodol.
Rydym yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy'r cymwysterau. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a bod gan gyflogwyr weithwyr sy'n bodloni eu safonau a'u disgwyliadau.