I ddarparwyr addysg a hyfforddiant ledled Cymru, Agored Cymru yw’r corff dyfarnu Cymreig gorau.

Mae ein cymwysterau’n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a’u parchu gan y sector addysg, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr.

Rydym yn cynnig dros 6,000 o unedau a 400 o gymwysterau achrededig, sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol, ac y sicrheir eu hansawdd gan amrywio o Sgiliau Hanfodol i Gynaliadwyedd. 

I gynnig a chyflenwi ein cymwysterau, rhaid ichi fod yn ganolfan gymeradwy.


Dod yn Ganolfan Gydnabyddedig Agored Cymru – Y Manteision

  • cefnogaeth barhaus i ddatblygu cwricwlwm arloesol, hyblyg ac ymatebol
  • mynediad i gefnogaeth bersonol gan staff ymroddedig, profiadol a gwybodus
  • cyfleoedd i rwydweithio gyda dros 250 o ganolfannau cydnabyddedig eraill ledled Cymru
  • mynediad i amrywiaeth o ddigwyddiadau Datblygiad Proffesiynol Parhaus
  • mynediad i gymwysterau ac unedau wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion datblygol grym y farchnad lafur yng Nghymru, agendâu cenedlaethol a blaenoriaethau addysg
  • chefnogaeth barhaus ar gyfer asesu a sicrhau ansawdd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhagor o Wybodaeth

Cewch ddysgu rhagor am gydnabod canolfannau.