Mae sgiliau digidol bellach yr un mor bwysig â sgiliau rhifedd a chyfathrebu. Mae gan Agored Cymru ystod eang o gymwysterau wedi’u dylunio i ddiwallu anghenion byd cynyddol ddigidol. Mae’r cymwysterau hyn yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr wella eu sgiliau craidd a gwella eu gyrfaoedd a’u cynhyrchiant.

Mae’r galw am weithwyr sydd â sgiliau casglu, dehongli a deall data yn cynyddu. Bydd gan fusnesau sy’n dehongli eu data’n llwyddiannus fantais dros y gystadleuaeth. Bydd ein cymwysterau ni’n darparu’r sgiliau sydd eu hangen i greu’r genhedlaeth nesaf o beirianyddion data, marchnatwyr digidol, rheolwyr data, dadansoddwyr data, gwyddonwyr data, dadansoddwyr cymdeithasol, dylunwyr graffig, rheolwyr optimeiddio peiriannau chwilio (SEO), rheolwyr cynnwys y we a mwy.

Data Analytics

Achrediad Cymhwysedd Digidol

Mae Agored Cymru yn rhan o’r ateb i ddatblygu llythrennedd digidol y wlad ymhellach. Mae ein hachrediad yn galluogi’r dysgwr i ddefnyddio amrywiaeth o lwyfannau digidol yn hyderus.

Rydym  yn darparu’r cymwysterau i ddatblygu sgiliau cymhwysedd digidol yn cynnwys creadigrwydd digidol, cynhyrchiant, cyfathrebu,  cydweithio a diogelwch digidol. Mae ein cymwysterau yn cynnwys:

 

Cymwysterau Galwedigaethol Digidol a Data

Caiff ein holl gymwysterau eu rheoleiddio gan Cymwysterau Cymru ac maent yn diwallu anghenion y sector y cawsant eu creu ar ei gyfer. Gellir rhannu pob un o’n cymwysterau yn unedau, er mwyn gallu eu darparu mewn modd hyblyg. Mae’r hyblygrwydd hwn yn ddelfrydol hefyd ar gyfer y dysgwyr hynny nad ydynt yn awyddus i astudio cymhwyster llawn ond sydd am gael achrediad ar gyfer eu dysgu.

*ar gael mewn fframwaith prentisiaeth