Agored Cymru yw'r corff dyfarnu o ddewis yng Nghymru gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol, felly rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr o bob oed a gallu yn gwneud y gorau o'u potensial.

Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, mewn amrywiaeth eang o bynciau o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch o allu cynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg (ar alw) ac rydym wedi buddsoddi mewn datblygu cymwysterau Iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dros 250 o ganolfannau ledled Cymru sy'n cynnwys ysgolion, prifysgolion, colegau, elusennau, cymdeithasau tai a busnesau i greu a darparu cymwysterau a dyfarnu credyd i ddysgwyr.

Rydym yn rhoi'r cyfle i bobl o bob oed fanteisio ar ddysgu gydol oes, boed hwy mewn addysg amser llawn o hyd, yn gweithio, neu'n chwilio am waith.

Mae gennym dros 30 mlynedd o brofiad ac arbenigedd unigryw mewn datblygu cymwysterau a chefnogi dysgu, asesu a sicrwydd ansawdd yng Nghymru.

Rydym yn cyflogi staff arbenigol sy'n meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr o'r hyn y mae cyflogwyr ei eisiau a'i angen o ran sgiliau a phrofiad.

Mae gennym ddull arloesol a hyblyg o weithio gyda chanolfannau. Rydym yn rhoi cymorth un-i-un, arweiniad a hyfforddiant ar bob cam o'r daith ddysgu o gofrestru i ddatblygu cymwysterau a gwobrwyo llwyddiant.

Mae ein hymrwymiad diwyro i ragweld ac ymateb i anghenion newidiol y farchnad lafur yng Nghymru, agendâu cenedlaethol a blaenoriaethau addysg, oll wrth wraidd ein twf parhaus.

Mae cymwysterau Agored Cymru'n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a'u parchu gan gyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sydd wedi'u hachredu gan Agored Cymru mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i swydd neu symud ymlaen yn eu gyrfa.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn weithio gyda chi, cysylltwch â'r tîm Rheoli Canolfannau.