Mae’r gyfres newydd o gymwysterau Craidd Dysgu gan Agored Cymru yn cefnogi strategaeth, polisi ac ymchwil addysgol gyfredol Llywodraeth Cymru. Mae’r cymwysterau’n rhoi sylfaen ystyrlon o sgiliau a gwybodaeth i ddysgwyr er mwyn gwella eu cyfleoedd dysgu yn y dyfodol, ynghyd â’u gobeithion am gyflogaeth.