Nod y gyfres o gymwysterau Dysgu yn yr Awyr Agored yw gwella datblygiad cymdeithasol, corfforol, creadigol, diwylliannol a phersonol pobl ifanc ac oedolion yn gyfannol drwy ddysgu arbrofol yn yr awyr agored.
Mae’r cymwysterau yn cefnogi'r dyhead am Gymru egnïol, iach a chynhwysol, lle mae dysgu yn yr awyr agored yn darparu llwyfan cyffredin ar gyfer cyfranogiad, hwyl, cyflawniad a chyflogaeth, gan gynyddu'r ddealltwriaeth o’r amgylchedd, yr iaith Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol a dyfodol Cymru.
Maent yn rhoi cyfleoedd i fwy o bobl ifanc yng Nghymru i gyflawni eu dichonolrwydd drwy weithgareddau a dysgu yn yr awyr agored, ac i ennill cymhwyster gwerthfawr ac achrededig sy’n hyrwyddo dilyniant.
Mae’r cymwysterau hyn yn diwallu anghenion Cwricwlwm i Gymru Llywodraeth Cymru ar draws pob maes dysgu a phrofiad, ac yn darparu cyfwerth o ¼, ½, 1 a 2 TGAU ar gyfer dilyniant i addysg uwch a/neu’n cael eu defnyddio i fesur perfformiad ysgol neu goleg.