Pan fydd rhywun yn ymweld â www.agored.cymru rydym yn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion patrwm ymddygiad ymwelwyr. Rydym yn gwneud hyn er mwyn canfod pethau megis faint o bobl sy'n ymweld ag amrywiol rannau'r safle. Rydym yn casglu'r wybodaeth hon mewn ffordd nad oes modd adnabod neb ohoni. Nid ydym yn gwneud unrhyw ymgais i ganfod pwy yw'r rheiny sy'n ymweld â'r safle. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gesglir o'r safle hwn ag unrhyw wybodaeth bersonol y gellir adnabod rhywun ohoni o unrhyw ffynhonnell. Os ydym yn awyddus i gasglu gwybodaeth bersonol y gellir adnabod pobl ohoni drwy ein gwefan, byddwn yn hollol agored am hyn. Byddwn yn gwneud hyn yn glir pan fyddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol a byddwn yn egluro beth rydym yn bwriadu ei wneud â hi.

Defnyddio Cwcis

Ffeiliau testun bychan yw Cwcis sy'n cael eu rhoi ar eich cyfrifiadur gan y gwefannau rydych yn ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio ar raddfa eang er mwyn i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal ag i ddarparu gwybodaeth i berchnogion y safle.

Mae'r tabl isod yn egluro'r cwcis rydym yn eu defnyddio a pham rydym yn eu defnyddio. 

Cwci Enw Pwrpas Rhagor o wybodaeth
Google Analytics _utma
_utmb
_utmc
_utmz
Rydym yn defnyddio'r cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i'n helpu ni i wella'r safle. Mae'r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf anhysbys, gan gynnwys nifer y bobl sydd wedi ymweld â'r safle, o ble y daeth yr ymwelwyr i'r safle a'r tudalennau maent wedi ymweld â nhw. Cliciwch yma i gael trosolwg o breifatrwydd Google
Cyflwyno awtomatig agored Caiff y cwci hwn ei ddefnyddio os ydy defnyddiwr cofrestredig wedi dewis yr opsiwn 'Cofiwch Fi' wrth gyflwyno'i hun i ran ddiogel y safle. Mae hyn yn golygu y gall y safle adnabod y defnyddiwr yn ddiogel at ddibenion cyflwyno awtomatig.
Mae'r cwci hwn yn dod i ben ar ôl mis, ond gall y defnyddiwr hefyd ei dynnu ar unrhyw adeg drwy ddewis yr opsiwn Allgofnodi ar frig y dudalen.
 
Cwci sesiwn y safle ASP.NET_SessionId Mae'r cwci hwn yn hanfodol i gynnal dewis iaith holl ddefnyddwyr y safle ac i adnabod defnyddwyr sydd wedi cyflwyno eu hunain yn ddiogel.
Caiff y cwci hwn ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.
Ymweld â gwefan Microsoft
Tocyn gwrth-Xsrf __AntiXsrfToken This cookie is a security cookie used to prevent cross-site request forgery attacks – this cookie is anonymous.  

 

Yn achos y mwyafrif o borwyr gwe, gallwch gael rhywfaint o reolaeth dros y mwyafrif o gwcis drwy gyfrwng gosodiadau'r porwr. I ddysgu mwy am cwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org.

Er mwyn dewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws bob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout.