Mae ein cymwysterau'n cael eu cydnabod yn eang, eu gwerthfawrogi a'u parchu gan gyflogwyr. Mae hyn yn golygu bod dysgwyr sydd wedi'u hachredu gan Agored Cymru mewn sefyllfa gref i ddod o hyd i swydd neu symud ymlaen yn eu gyrfa.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd, a gydnabyddir yn genedlaethol ar draws ystod eang o bynciau, o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.

Gallwch chwilio drwy ein cymwysterau yma.

Gall canolfannau a dysgwyr chwilio hefyd yn ôl meysydd cwricwlwm a chymwysterau.

Mae ein holl gymwysterau wedi cael eu datblygu mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o sefydliadau, drwy ymgysylltu â grwpiau llywio arbenigol.  Mae hyn yn golygu eu bod yn bodloni gofynion rheoliadol, yn cyd-fynd â'r fframweithiau priodol ac yn bodloni blaenoriaethau addysg cenedlaethol.

Darllenwch ein hastudiaethau achos sector diweddaraf.

Cyflwyno Cymwysterau Newydd

Llenwch y ffurflen QD1 a'i hanfon dros e-bost at rheolwr.canolfan@agored.cymru.

Mae'n rhaid cynnwys tystiolaeth o'r angen/galw am y cymhwyster wrth gyflwyno ceisiadau. Gall hyn ddod gan yr isod:

  • Cynghorau Sgiliau Sector (strategaethau cymwysterau sector neu gynlluniau gweithredu)
  • Cyflogwyr
  • AdAS, Llywodraeth Cymru
  • Adolygiad o gymwysterau presennol
  • Sefydliadau rhanddeiliaid, gan gynnwys canolfannau

Rydym yn croesawu adborth am anghywirdeb, gwallau neu broblemau a nodwyd mewn cymwysterau neu unedau cymwysterau.

I gyflwyno eich sylwadau anfonwch e-bost i: rheolwr.canolfan@agored.cymru