Mae'r cymwysterau addysg bersonol a chymdeithasol yn cefnogi meysydd polisi addysgol allweddol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru.

Mae'r cymwysterau'n bodloni'r pum thema wahanol sy'n rhan o'r fframwaith:

  • dinasyddiaeth weithgar
  • iechyd a lles emosiynol
  • datblygiad moesol ac ysbrydol
  • paratoi ar gyfer dysgu gydol oes
  • datblygiad cynaliadwy
  • dinasyddiaeth fyd-eang.

Mae'r cymwysterau yn helpu dysgwyr i feithrin mwy o sgiliau a gwybodaeth er mwyn gwella eu datblygiad personol a chymdeithasol, yn ogystal â'u hiechyd a'u lles emosiynol.  Mae hyn yn sicrhau bod pobl ifanc yn meddu ar y sgiliau priodol ac yn dod yn unigolion hyderus er mwyn byw yn effeithiol ac yn llwyddiannus mewn cymdeithas sy'n newid yn sydyn, a'u bod yn gwireddu eu huchelgeisiau.


Rhagor o Wybodaeth

Rydym ar flaen y gad o ran yr arferion presennol a gallwn ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol a'r themâu cysylltiedig megis mynd i'r afael â bwlio, tlodi plant, addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg camddefnyddio sylweddau.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.


Cymwysterau

Agored Cymru Dyfarniad Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/0613/7
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/0613/5
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 1) C00/0604/7
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 2) C00/0608/1
Agored Cymru Dyfarniad Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 3) C00/0613/1
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1198/0
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1197/6
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 3) C00/1197/3
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 2) C00/1197/0
Agored Cymru Dyfarniad Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 1) C00/1196/7
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1198/1
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1198/2
Agored Cymru Diploma Lefel 2 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1198/3
Agored Cymru Tystysgrif Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1197/7
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1197/8
Agored Cymru Diploma Lefel 1 mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol C00/1197/9
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 3) C00/1197/4
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 3) C00/1197/5
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 2) C00/1197/1
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 2) C00/1197/2
Agored Cymru Tystysgrif Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 1) C00/1196/8
Agored Cymru Tystysgrif Estynedig Lefel Mynediad mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol (Mynediad 1) C00/1196/9