Mae'r cam hwn yn y broses adolygu yn dilyn y cam ymgynghori. Gweler yr amserlen i weld dyddiadau carfannau unigol.
Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn diwygio unedau presennol lle gofynnwyd am hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori. Wrth i unedau newydd gael eu datblygu byddant yn cael eu hychwanegu at y garfan berthnasol.
Rhaid i ganolfannau gysylltu â ni os ydynt yn dymuno trafod y bwriad i ddirwyn uned i ben neu os hoffent gyfrannu at ddiwygio’r uned. Os yw canolfan yn fodlon i gymeradwyo; gyda’r diwygiadau; neu i ddirwyn uned i ben, yna nid oes angen iddynt wneud dim.
Yn ystod y cam hwn, mae unedau’n cael eu rhoi yn un o'r dosbarthiadau canlynol:
CYMERADWYO: Barnwyd fod yr uned yn addas i’r diben, neu bydd yn destun mân newidiadau.
DIRWYN I BEN: Ddim yn addas ar gyfer y diben. Barnwyd nad yw'r uned yn addas ar gyfer y diben - bydd y rheswm am hyn wedi’i nodi yn y sylwadau. Nodir os oes uned newydd yn cael ei llunio yn ei lle. Gall uned hefyd gael ei ddirwyn i ben os na fu cofrestriadau am gyfnod sylweddol o amser.
Carfannau/Unedau
Gall canolfannau ddarllen y sylwadau ar bob uned drwy glicio ar y garfan berthnasol isod.
Carfan | Dyddiad Cau’r Ymgynghoriad |
---|---|
Busnes, Marchnata a Menter | 28/02/2025 |
Gofal Iechyd Clinigol | 28/02/2025 |
Cyfathrebu a Chyfryngau | 28/02/2025 |
Llywodraeth/Gwleidyddiaeth | 28/02/2025 |
Therapïau Cyfannol | 28/02/2025 |
Y Gyfraith | 28/02/2025 |
Ieithoedd Modern Ewropeaidd | 28/02/2025 |
Gofal Iechyd sydd ddim yn Glinigol | 28/02/2025 |
Paratoi ar gyfer Gwaith a Bywyd | 28/02/2025 |