Bwriad adolygu unedau ydy gwella ansawdd a safonau ein hunedau sy'n eistedd tu allan i gymwysterau.

Mae’n gwneud yn siŵr bod holl gynnwys ein hunedau yn gyfredol, yn berthnasol ac yn addas ar gyfer y diben.


I’r Broses

Mae tri cham i'r broses adolygu:

Cam Ymgynghori

Cam Gwerthuso

Cyhoeddi'r Canlyniadau

Dosbarthwyd unedau yn garfannau a  threfnwyd i'w hadolygu. Pan fydd carfan adolygu yn destun ymgynghoriad, yna gwahoddir ganolfannau a rhanddeiliaid eraill i roi sylwadau ar gynnwys yr unedau. Bydd Canolfannau’n cael gwybod pa unedau penodol yn eu fframwaith sy’n perthyn i’r carfannau sy’n rhan o ymgynghoriad. 


Dosbarthiadau

CYMERADWYO: Mae un neu fwy o ganolfannau wedi barnu bod yr uned yn addas i’r diben, yn gyfredol a’r cynnwys yn briodol ar gyfer y lefel a’r gwerth credyd.

DIWYGIO: Mae’r uned wedi’i diwygio. Mae cynnwys yr uned wedi’i ddiwygio ychydig, bydd hyn naill ai’n berthnasol i’r canlyniad dysgu, meini prawf asesu neu wybodaeth asesu.

DIRWYN I BEN: Ddim yn addas i’r pwrpas.  Barnwyd nad yw’r uned yn addas i’r diben.

DIRWYN I BEN: Heb ei ddefnyddio.  Nid yw’r uned wedi’i defnyddio.

DIRWYN I BEN: Uned i gael ei hailysgrifennu.  Barnwyd nad yw’r uned yn addas i’r diben a bydd yn cael ei hailysgrifennu. Bydd cod a chynnwys newydd yr uned yn cael eu rhannu â’r ganolfan yn dilyn yr adolygiad.

Rhagor o Wybodaeth

Os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch ag productdevelopment@agored.cymru.