Mae unedau o fewn y carfannau adolygu yn y tabl isod wedi cael statws 'Dirwyn i Ben' neu 'Cymeradwyo'.

Bydd unrhyw uned sydd wedi dod i ben, ar gael i ddysgwyr cofrestredig hyd at ei dyddiad dod i ben. Does dim modd cofrestru dysgwyr ar yr unedau hyn ar ôl y dyddiad hwn. Bydd unedau gyda statws dirwyn i ben yn ymddangos ar gefndir coch ar fframweithiau canolfannau.

Mae unedau sydd wedi’u cymeradwyo wedi cael eu hymestyn. Bydd dyddiad adolygu newydd yn cael ei bennu ar gyfer yr unedau hyn. Fel rheol mae'r dyddiad hwn 5 mlynedd ar ôl y dyddiad cyhoeddi. Bydd unedau gyda statws cymeradwyo yn ymddangos ar gefndir gwyrdd ar fframweithiau canolfannau.


Unedau sy'n Disodli / Unedau Newydd

Bydd angen i ganolfannau ychwanegu unedau sy'n disodli neu unedau newydd at eu fframwaith.

Ni fydd hyn yn cael ei wneud yn awtomatig.


Newidiadau i Unedau

Bydd angen i Ganolfannau sydd am newid unedau eraill sydd y tu allan i'r broses adolygu gysylltu â ni.


Carfannau/Unedau

Gallwch weld canlyniadau pob uned drwy glicio ar y garfan.

Mae'r golofn ‘nodiadau’ yn nodi’r rhesymeg dros gymeradwyo neu ddirwyn uned i ben ac yn rhoi manylion newidiadau a'r unedau newydd sydd ar gael yn eu lle.