Mae'r cwrs yma'n canolbwyntio ar weithredu addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion. Mae'n addas i unigolion sy'n arwain addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion, er enghraifft, cydlynwyr addysg bersonol a chymdeithasol, a sefydliadau ymweld sy'n cefnogi darparu addysg rhyw a pherthnasoedd mewn ysgolion.
Bydd adnoddau ar gael ar y diwrnod ac maent wedi’u cynnwys yn y costau.
Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y cyfranogwyr yn deall:
- rheoli lles dysgwyr a’r amgylchedd dysgu (datgelu, dienw, cyfrinachedd, gosod rheolau sylfaenol, ffiniau proffesiynol)
- rhwystrau cyffredin wrth gyflwyno SRE
- manteision cyflwyno SRE da (chwalu mythau)
- arfer da wrth gyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd (technegau pellhau, rheolau sylfaenol, defnyddio terminoleg, peidio â defnyddio tactegau sioc, dim cwestiynau personol)
- arfer da wrth gydlynu a chyflwyno SRE mewn ysgolion (llywodraethwyr, rhieni/gofalwyr, dysgwyr, polisi)
- deddfwriaeth gan gynnwys Canllawiau Fraser
- sut i gyflwyno ymarferion enghreifftiol SRE ar gyfer datblygiad rhywiol a deddfwriaeth
- sut i gyfeirio pobl ifanc at gymorth ar gyfer anghenion a materion iechyd rhywiol
- argymhellion adolygiad SRE Llywodraeth Cymru