Prisiau Rhaglen Hyfforddiant a Chefnogaeth
Os na nodir yn wahanol, Mi fyddwn yn codi tal yn ôl y raddfa a hysbysebir am ddigwyddiadau Hyfforddi a DPP. Rhaid i ni fod wedi derbyn tal am eich lle cyn mynychu.
Canolfannau cydnabyddedig newydd yn unig fydd yn gymwys ar gyfer nifer penodol o leoedd am ddim. Rhaid i'r llefydd hyn cael eu defnyddio o fewn 12 mis o ddyddiad eu cymeradwyo canolfan.
Gwybodaeth Ychwanegol ar gyfer Digwyddiadau Safoni
Rhoi sylw i’r angen am gynrychiolwyr o amrywiaeth o ganolfannau a sicrhau bod gan ganolfannau y mae’n rhaid iddyn nhw ddod i ddigwyddiad safoni gynrychiolaeth, mewn achosion lle bydd y galw yn uchel, rydyn ni’n cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y lleoedd fesul canolfan i 2.
Ffioedd Canslo
Isafswm ffi o £50 fesul cynrychiolydd am beidio â mynychu unrhyw ddigwyddiad rhad ac am ddim.
Ni fydd unrhyw ad-daliad lle codir ffi am gyrsiau ond gellir cynnig y lle i rywun arall.
Bydd mynychwyr yn derbyn ad-daliad o 50% os bydd lle yn cael ei ganslo dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
Ni fydd unrhyw ad-daliadau pan fydd lle yn cael ei ganslo’n llawn lai na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, neu am absenoldeb.
Gall amgylchiadau godi a fydd yn arwain at yr angen i ganslo, aildrefnu neu ohirio digwyddiad, oherwydd digwyddiad anrhagweledig.
Mae Agored Cymru yn cadw’r hawl i ganslo cyrsiau pan fo amgylchiadau annisgwyl yn codi. Bydd yr holl gynrychiolwyr yn cael eu had-dalu neu’n cael lle ar ddigwyddiad wedi’i aildrefnu.