Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Corinne Fry
Corinne Fry yw'r Uwch Swyddog Iechyd a Datblygu'r Gweithlu yn Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. Mae ei phortffolio gwaith yn cynnwys rheoli staff ac arwain a rheoli mentrau iechyd ar draws y Sir. Mae hyn yn cynnwys rheoli'r Gwasanaeth Galw Heibio Cyngor ar Berthnasau ar gyfer pobl ifanc a ddarperir ledled Castell-nedd Port Talbot.
Ar hyn o bryd mae hi'n Gadeirydd Grŵp Ymgynghorol Addysg Rhyw a Pherthnasau Plant a Phobl Ifanc a’r Grŵp Trais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig a Cham-drin Rhywiol ar ran yr Awdurdod Lleol. Cyn hyn, hi oedd Rheolwr Gwelliannau'r Gwasanaeth Iechyd Rhyw yn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Mae ganddi gyfoeth o brofiad o weithio gyda phobl ifanc mewn addysg ffurfiol ac anffurfiol, ac mae hi wedi cynnal nifer o brosiectau ymchwil ar Addysg Rhyw a Pherthnasau, gyda rhai ohonynt wedi arwain at ymweliadau astudiaethau ymchwil rhyngwladol gyda charfan o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg.
Mae Corinne yn aelod o Grwpiau Panel Arbenigol Addysg Rhyw a Pherthnasau ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol Llywodraeth Cymru a Grŵp Adolygu Iechyd Rhywiol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hi wedi datblygu Ymagwedd Strategol Ledled y Sir at Addysg Rhyw a Pherthnasau gyda phartneriaid lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot, sydd wedi arwain at ddatblygu canllaw addysgu a phecyn adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd a chyfun lleol. Yn sgil hyn, mae hi wedi datblygu rhaglen hyfforddi achrededig ar gyfer yr holl ymarferwyr perthnasol, gan gynnwys athrawon, nyrsys a gweithwyr ieuenctid. Bydd ei gwaith ar thesis doethurol, yn dechrau yn fuan, a fydd yn canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc mewn perthynas ag Addysg Rhyw a Pherthnasau ac yn cyfrannu ymhellach at ei hymchwil yn y cyd-destun hwn.