Safoni – Cyffredinol (yn cwmpasu pob lefel)
Mae’n ofynnol i gynrychiolydd priodol o’r ganolfan fynychu digwyddiad safoni rhad ac am ddim Agored Cymru bob 2 flynedd.
Mae digwyddiadau safoni wedi'u hanelu at y canlynol:
- Reolwyr Ansawdd canolfannau
- Staff sicrhau ansawdd mewnol (IQA)
- Staff â chyfrifoldebau allweddol o ran polisi ac ymarfer sicrhau ansawdd y ganolfan
Mae’r digwyddiadau’n canolbwyntio ar ymarfer gorau o ran prosesau sicrhau ansawdd, ac yn anelu at hyrwyddo cysondeb yn y ffordd y caiff cymwysterau Agored Cymru eu hasesu ac y sicrheir eu hansawdd yn fewnol.
Rhaid i’r rhai sy’n mynychu fod yn staff Sicrhau Ansawdd Mewnol gweithredol, cymwys a phrofiadol, neu fod wedi mynychu cwrs ‘Sicrhau Ansawdd Mewnol’ Agored Cymru. Rhaid iddynt hefyd allu lledaenu gwybodaeth a rhoi ymarfer da ar waith yn eu sefydliad eu hunain.
Tasg cyn y cwrs: Cyn y digwyddiad, dylai’r rheini a fydd yn bresennol adlewyrchu ar strategaeth sicrhau ansawdd mewnol eu canolfan eu hunain a nodi’r pwyntiau allweddol yn y strategaeth honno. Adlewyrchwch ar ddisgwyliadau eich sefydliad o ran gweithredu proses safoni fewnol yn y ganolfan. Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol ddod â strategaeth sicrhau ansawdd mewnol bresennol eu canolfan gyda nhw a bod yn barod i'w thrafod yn ystod y sesiwn.
Bydd angen i’r rheini a fydd yn bresennol gael gafael ar ddogfennau allweddol o wefan Agored Cymru i baratoi ar gyfer y digwyddiad, a’u hargraffu neu eu llwytho i lawr ar ddyfais bersonol. Gall y dogfennau gynnwys:
- Samplau o asesiadau dysgwyr
- Templed sicrhau ansawdd mewnol
- Ffurflen adborth safoni
Nid yw’r digwyddiadau safoni yn canolbwyntio ar asesu, yn hytrach mae’n targedu arferion sicrhau ansawdd mewnol yn benodol