Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Clare Llewellyn

Ymunodd Clare ag Agored Cymru yn 2017 fel aelod Cyswllt ar ôl treulio blynyddoedd lawer yn cyflwyno hyfforddiant ac yn asesu amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe, bu Clare yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol yn Llundain cyn dychwelyd i Dde Cymru, gan weithio mewn swyddi AD eraill cyn cychwyn ar yrfa ym maes addysg a dysgu gydol oes.

Ar ôl cwblhau ei Thystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR), bu Clare yn gweithio am dros 9 mlynedd fel darlithydd yng Ngholeg Morgannwg, yn cyflwyno ac asesu ystod eang o gyrsiau sgiliau sylfaenol a chyflogadwyedd i oedolion yn y coleg a hefyd yn targedu pobl o gefndiroedd difreintiedig, drwy ddarparu sesiynau mewn canolfannau cymuned ar draws Rhondda Cynon Taf. Bu Clare hefyd yn cyflwyno ac asesu hyfforddiant Sgiliau Sylfaenol i ymarferwyr ar ran cyrff allanol.

Mae Clare wedi treulio amser fel Tiwtor Dysgu i Deuluoedd gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn ennill profiad yn y trydydd sector, yn gyntaf gyda Gingerbread, lle’r oedd yn canolbwyntio ar ymgysylltu â'r gymuned a chyflwyno cyrsiau achrededig i rieni sengl. Treuliodd beth amser gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio gyda’r Tîm Rheoli Gweithredol, cyn dychwelyd i faes addysg a hyfforddiant, gan ddylunio a chyflwyno hyfforddiant gwella ansawdd i Action for Hearing Loss ac yna ddatblygu ac asesu cyrsiau sgiliau hanfodol i Plant y Cymoedd, lle mae’n dal i weithio ar sail lawrydd fel swyddog sicrhau ansawdd mewnol.

Mae gan Clare wybodaeth a phrofiad helaeth o asesu, systemau sicrhau ansawdd mewnol a gweithio gyda Chyrff Dyfarnu.