Yn 2003 cafodd pob dysgu, gan gynnwys cymwysterau prif ffrwd, a gynigiwig yng Nghymru eu t'ynnu at ei gilydd i un strwythur unedig – Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC). Mae’r fframwaith wedi cyfuno cysyniadau o swm y cyraeddiadau dysgu (credyd) a’r gofynion a wneir gan y dysgu hwnnw ar y dysgwr (lefel) i greu system sy’n cynnwys pob math ac arddull o ddysgu, a phob cymhwyster.

Mae Credyd yn fodd o gydnabod dysgu, lle bynnag, pryd bynnag a sut bynnag y’i cyflawnir. Mae’n cynnig buddion i ddysgwyr a chyflogwyr trwy ddarparu system ar gyfer rhoi gwerth i wahanol gymwysterau mewn ffordd gyson a safonol. Mae credyd ar gyfer pob dysgwr 14 oed a hyn. Byddant yn gallu elwa o Gredyd boed hwy’n dysgu yn y gweithle, yn y gymuned, mewn ysgol, coleg neu brifysgol.

Mae Agored Cymru yn Gorff Cydnabyddedig o fewn FfCChC sy’n cefnogi’n llwyr ei 5 nod:

  • galluogi pawb i ddatblygu a chynnal sgiliau hanfodol
  • annog pobl i ddod yn ddysgwyr gydol oes
  • cefnogi datblygiad sgiliau mewn sefydliadau busnes ac addysgol
  • annog gweithwyr i ennill sgiliau newydd
  • helpu pobl o fewn cymunedau i ddatblygu sgiliau newydd

Am wybodaeth bellach am Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru ewch i’w gwefan.

Mae Agored Cymru yn gweithredu o fewn pileri Cymwysterau Rheoledig a Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd FfCChC. Trwy gynllun cwricwlwm dychmygus gall Agored Cymru adeiladu llwybrau cynnydd o addysg oedolion a dysgu yn y gymuned, hyfforddiant cwmni, dysgu yn y sector gwirfoddol a dysgu ehangach 14-19 i’r Fframwaith Cymwysterau a Chredydau. Mae’n gwneud hyn mewn dwy ffordd:

  • trwy ddarparu llwybrau cynnydd achrededig a fydd yn paratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau, gan gynnwys ei gymwysterau ei hun a rhai gan Sefydliadau Dyfarnu eraill a
  • thrwy drefnu ei gymwysterau yn y fath fodd fel fod cyfle i ddysgwyr gyfrif unedau o ddarpariaeth QALL tuag at ennill cymwysterau.

Mae’r fframwaith yn cyflwyno cymwysterau mewn ffordd sy’n hawdd ei deall a’i mesur. Bydd gan bob uned a chymhwyster yn y fframwaith werth credydau (mae un credyd yn cynrychioli 10 awr, gan ddangos faint o amser mae’n ei gymryd i’w gwblhau) a lefel rhwng lefel Mynediad a lefel 8 (sy’n dangos pa mor anodd ydyw).

Mae tri maint o gymwysterau:

Dyfarniadau (1 i 12 o gredydau)
Tystysgrifau (13 i 36 o gredydau)
Diplomâu (37 neu fwy o gredydau).

.