Mae gan Agored Cymru draddodiad anrhydeddus mewn datblygu cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch, y Mudiad Rhwydwaith Coleg Agored (RhCA) a chredyd yng Nghymru. Ers y 18 myfyriwr cyntaf i ennill credydau yng Nghlwyd yn 1990, mae dros 6 miliwn o gredydau wedi cael eu dyfarnu i ddysgwyr ledled Cymru.

Roedd Fforwm Mynediad Cymru (WAU) a sefydlwyd yn 1989 yn allweddol wrth sefydlu gweithgaredd Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru. O’r dechrau fe wnaeth Mynediad i Addysg Uwch a gwaith RhCA ddatblygu mewn cydweithrediad. Erbyn 1994 roedd 3 OCN/AVAs – yn Ne-orllewin, De-ddwyrain a Gogledd Cymru.

Roedd Consortiwm Coleg Agored a Mynediad De-Orllewin Cymru (SWWOCAC) yn un o’r RhCA a arwyddodd y cytundeb gwreiddiol ar Gronni a Throsglwyddo Credydau yn yr 1990au, datblygiad allweddol yn y gwaith o sefydlu’r Rhwydwaith Coleg Agored Cenedlaethol (RhCAC). Y Rhwydweithiau Coleg Agored yng Nghymru oedd y rhai cyntaf i ddarparu camau bychain o ddysgu achrededig i oedolion i gefnogi’r rheini a oedd yn dychwelyd i ddysgu ac maent wedi bod yn cynorthwyo darparwyr i ddatblygu darpariaeth hygyrch a hyblyg i helaethu cyfranogiad ers dechrau’r 1990au.

Fe wnaeth Prosiect Modiwleiddio Credydau Cymru (Credis yn ddiweddarach) a sefydlwyd yn 1994 gyflwyno system o unedau yng Nghymru cyn i hyn ddigwydd yn Lloegr ac roedd yn ddatblygiad arwyddocaol i’r sector Addysg Bellach i ddefnyddio credydau i atgyfnerthu cymwysterau eraill. Fe wnaeth y Rhwydweithiau Coleg Agored ymgymryd â’r gwaith o ddatblygu unedau a chymeradwyo a bu’n eistedd ar amrywiol o weithgorau.

Sefydlwyd Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) yn 2003 i symud ymlaen â’r brîff credydau. Mae gweledigaeth FfCChC yn adlewyrchu gweledigaeth Agored Cymru – cefnogi datblygu cymdeithas gynhwysol, cynorthwyo mewn cael gwared ar rwystrau i ddilyniant, hyrwyddo cydnabyddiaeth o sgiliau i gefnogi twf economaidd a chynnig cydraddoldeb cyrhaeddiad i bob dysgwr.

Sefydlwyd RhCA Cymru ym mis Hydref 2004 yn sgil cyfuno’r 3 RhCA blaenorol yng Nghymru. Un o’r prif resymau dros y cyfuno oedd galluogi RhCA i chwarae rhan fwy effeithiol mewn datblygiadau cenedlaethol. Roedd RhCA Cymru a NOCN yn arwyddwyr gwreiddiol i Gytundeb Cyffredin FfCChC. Fe ymgymerodd RhCA/C â gwaith prosiect i brofi’r dasg o gymhwyso a datblygu Credyd i Safonau Datblygu Cymunedol, Dysgu i Droseddwyr a dysgu anffurfiol 14-19.

Mae RhCA Cymru wedi cymryd rhan trwy NOCN mewn prosiectau profi a threialu a brofodd hyfywedd y fframwaith Cymwysterau a Chredydau.

Ym mis Awst 2009 daeth RhCA Cymru yn Sefydliad Dyfarnu yn y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau a newidiodd ei enw i Agored Cymru. Mae Agored Cymru’n datblygu cymwysterau sydd wedi eu teilwra’n unigryw i ddiwallu anghenion dysgwyr yng Nghymru. Mae’n parhau i weithio mewn partneriaeth gyda’r NOCN, gan rannu ei werthoedd a’i genhadaeth, i gynnig cymwysterau NOCN yng Nghymru.