Dim ond unwaith y caniateir i ddysgwyr ailgyflwyno gwaith nad yw'n bodloni gofynion canlyniadau dysgu a meini prawf asesu cysylltiedig uned.

Fodd bynnag, gall canolfannau argymell bod dysgwr yn cael ail gyfle i  ailgyflwyno gwaith drwy'r broses atgyfeirio.

Mae modd atgyfeirio dysgwyr sydd wedi cyflwyno gwaith ar ôl y dyddiad cau ac sydd wedi methu â bodloni un neu ragor o'r canlyniadau dysgu a'r meini prawf asesu cysylltiedig.


Y Broses Ymgeisio

Mae modd atgyfeirio drwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio a'i hanfon at Reolwr Mynediad i AU Agored Cymru, Victor Morgan, victor.morgan@agored.cymru.

Bydd pob atgyfeiriad yn cael ei ystyried gan y panel atgyfeirio. Mae’r panel yn cynnwys o leiaf tri chynrychiolydd o Agored Cymru gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gweithredol: Datblygu Busnes a Gwella Ansawdd a/neu’r Uwch Reolwr: Ansawdd a Safonau, y Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch ac un rheolwr ansawdd.

Byddwn yn cyfleu canlyniadau’r panel atgyfeirio at gyswllt sicrhau ansawdd y ganolfan cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr atgyfeiriad.


Rhagor o Wybodaeth

Cysylltwch â’r Victor Morgan, Reolwr Mynediad i AU Agored Cymru.