Bob blwyddyn, rydym yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau anhygoel dysgwyr Mynediad i Addysg Uwch gyda'n gwobrau fawreddog, Gwobrau Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch.

Yn aml, mae dysgwyr Mynediad i Addysg Uwch wedi goresgyn heriau mawr yn eu bywydau i ennill cymwysterau a chyflawni eu dyhead o fynd ymlaen i addysg uwch,  

Mae ein gwobr yn gyfle i gydnabod a gwobrwyo dysgwyr ysbrydoledig am eu hymrwymiad i ddysgu. 

 

Y Categorïau

Mae yna ddau gategori:

  • Ymrwymiad Eithriadol i Astudio

  • Llwyddiant Academaidd Eithriadol

Bydd enillwyr gwobrau Agored Cymru yn mynd ymlaen i gystadlu am wobrau Keith Fletcher ledled y DU.

 

Y Broses Enwebu

Caiff canolfannau enwebu hyd at ddau ddysgwr ar gyfer pob categori. Cliciwch yma am ffurflenni enwebu. Dylech gyflwyno eich ffurflenni enwebu drwy drosglwyddiad diogel at sylw Victor Morgan.  Dylech gyfeirio at Wobr Dysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch yn y blwch sylwadau.

Gellir enwebu dysgwr ar gyfer y ddau gategori.

Dim ond dysgwyr sy’n cwblhau Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yn 2022-23 sy’n gymwys i wneud cais.

 

Meini Prawf

Ymrwymiad Eithriadol i Astudio

Dylai dysgwyr yn y categori hwn fod wedi dangos tystiolaeth o rai neu'r cyfan o’r canlynol:

  • ymrwymiad eithriadol i astudio ar gwrs Diploma Mynediad i Addysg Uwch, er gwaethaf amgylchiadau personol heriol

  • eu bod wedi cyflawni datblygiad personol ysbrydoledig sy’n dangos effaith a dylanwad trawsffurfiol dysgu

  • cyflawniad unigol sydd y tu hwnt i ddisgwyliadau safonol

 

Datganiad Cefnogi

Dylai’r datganiad cefnogi esbonio sut mae’r enwebai’n bodloni’r meini prawf uchod. Dylai roi syniad o’r mathau o rwystrau y mae’r dysgwr wedi’u goresgyn. Dylai nodi unrhyw sgiliau penodol a ddangosodd y dysgwr wrth ddilyn ei astudiaethau. Er y dylid parchu preifatrwydd y dysgwr, bydd o gymorth i’r panel beirniaid asesu'r enwebiad, os gellir rhoi rhai manylion am yr heriau a wynebwyd gan y myfyriwr a’r modd yr aeth ati i ateb yr heriau hyn.

 

Datganiad Dysgwr

Er mwyn helpu i wneud penderfyniadau yn y categori yma, mae angen datganiad dysgwr fel rhan o’r dystiolaeth a ddarperir yn yr enwebiad.  Dylai’r datganiad dysgwr roi golwg gyffredinol ar eu profiad o gwblhau'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch, gan nodi pam y dewiswyd y cwrs a sut y gwnaethant oresgyn yr heriau a wynebwyd.

 

Llwyddiant Academaidd Eithriadol

Dylai’r dysgwyr a enwebir yn y categori hwn fod wedi rhagori yn eu hastudiaeth academaidd drwy gynhyrchu gwaith yr aseswyd ei fod o safon gyson eithriadol tra ar y Diploma Mynediad i Addysg Uwch.

 

Datganiad Cefnogi

Ar gyfer ‘Llwydiant academaidd eithriadol’ dylai’r datganiad gynnwys sylwadau a manylion digonol am yr ystod a’r math o waith a gyflwynwyd gan y dysgwr a’i berfformiad. Lle bo’n bosibl dylai hyn gynnwys datganiadau a wnaed gan diwtoriaid yn eu hadborth ar y gwaith. Byddai crynodeb cyffredinol o berfformiad a chyflawniad y dysgwr hefyd yn ddymunol.

 

Tystiolaeth ategol

Ar gyfer gwobr ‘Ymrwymiad Eithriadol i Astudio’ rhaid i ganolfannau gyflwyno enghreifftiau o waith yr enwebai ar gyfer o leiaf dwy uned (uchafswm o dri). Darparwch gopïau electronig o’r holl waith a aseswyd lle bo hynny’n bosibl. Derbynnir copïau wedi’u sganio o waith wedi’i ysgrifennu a llaw neu o waith wedi’i deipio gyda sylwadau tiwtor mewn llawysgrifen. Sicrhewch fod adborth tiwtor yn cael ei gynnwys ynghyd â’r proffil gradd.

 

Enwebiadau 2023

Mae enwebiadau ar gyfer 2022 nawr ar agor. Dyddiad cau cyflwyno ceisiadau ar gyfer pob categori yw 11 Tachwedd 2023.  

 

Cyhoeddusrwydd a Chyflwyno'r Gwobrau 

Bydd yn ofynnol i’r enillwyr gymryd rhan mewn gweithgaredd hyrwyddo sy’n cynnwys sesiynau tynnu lluniau a chyfweliadau yn y cyfryngau. Bydd enillwyr ac enillwyr yr ail safleoedd yn cael eu gwahodd i ddigwyddiad gwobrwyo a bydd enillwyr yn cael eu henwebu’n awtomatig ar gyfer Gwobr genedlaethol Keith Fletcher.