Rydyn ni’n cydnabod er bod dyfarniadau ar sail tystiolaeth y dilyswyr allanol yn cael eu cefnogi yn y rhan fwyaf o achosion gan resymwaith clir, efallai bydd adegau’n codi pan fydd canolfan yn anghytuno â phenderfyniad neu ddyfarniad.

Mae canolfan yn gallu apelio yn erbyn penderfyniad neu ddyfarniad os yw’n gallu cyflwyno tystiolaeth glir a diymwad yn erbyn y penderfyniad neu’r dyfarniad.


Y Broses

Rhaid gwneud apeliadau drwy ddefnyddio’r ffurflen Apeliadau.

Bydd Agored Cymru yn ystyried pob apêl cyn pen 10 diwrnod gwaith.


Rhagor o Wybodaeth

Cysylltwch â’r Victor Morgan, Reolwr Mynediad i AU Agored Cymru.