O 2017 ymlaen, bydd y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yn ymuno â chymwysterau eraill fel rhan o’r system bwyntiau Tariff UCAS a gafodd ei diwygio’n ddiweddar. Bydd dysgwyr sy’n cwblhau'r Diploma o 2017 ymlaen yn ennill pwyntiau UCAS am y tro cyntaf.

Er bod y Tariff ar gael ers sawl blwyddyn bellach ar gyfer amrywiol gymwysterau, o 2017 ymlaen bydd yn seiliedig ar system ddiwygiedig lle defnyddir y system raddio a’r maint sy’n gysylltiedig â chymwysterau i gyfrifo pwyntiau.

Mae’n syniad da i ganolfannau daro golwg ar y tabl Tariff UCAS ar dudalen 110 i gael y manylion llawn, ond mae’r tabl isod yn cynnig rhai enghreifftiau o broffiliau graddau Mynediad i Addysg Uwch gyda’r pwyntiau Tariff cyfatebol.

Proffil credyd graddau:
nifer y credydau ar gyfer pob
gradd
Tariff Points Enghreifftiau o bwyntiau
tariff Safon Uwch
Rhagoriaeth Teilyngdod Llwyddo    
45 0 0 144 AAA
30 15 0 128 ABB
15 30 0 112 BBC
0 45 0 96 CCC
15 15 15 96 CCC
0 15 30 64 DDE (neu ddwy radd
C Safon Uwch)
0 0 45 48 EEE (neu un Safon
Uwch gradd A)

Efallai y byddai o fudd i ganolfannau Mynediad i Addysg Uwch a dysgwyr weld y fideo yma ynglŷn â thariff UCAS a’r Diploma Mynediad i Addysg Uwch.