Defnydd cyfrifol o DA mewn Asesu a SAM
Mae DA yn dod yn rhan annatod o’r maes asesu, gyda nifer o ymarferwyr eisoes yn archwilio sut y gallai gefnogi asesu a sicrhau ansawdd mewn ffyrdd ymarferol. Yr her yw gwybod sut i'w ddefnyddio'n hyderus, yn gyfrifol ac o fewn y ffiniau priodol.
Dyma pan rydym yn cyflwyno ein sesiwn hyfforddi Defnydd cyfrifol o DA mewn Asesu a SAM.
Yn ystod y sesiwn yma byddwch yn:
- Archwilio disgwyliadau Cymwysterau Cymru ac Agored Cymru
- Datblygu eich dealltwriaeth o DA ac DA cynhyrchiol, gan gynnwys manteision, risgiau a chyfyngiadau
- Ystyried rôl aseswyr a swyddogion SAM wrth ddiogelu dilysrwydd, uniondeb academaidd a gwerth cymwysterau.
- Cyflwyniad i offer ymarferol, gan gynnwys y Broses Brysbennu Trafodaethau Proffesiynol a Chofnod Archwilio Defnydd DA
- Gweithio gydag uned Agored Cymru fel esiampl ymarferol
- Archwilio'r neges allweddol: Gall DA gefnogi ymarfer, ond mae barn ddynol yn parhau i fod yn hanfodol
- Cymryd rhan mewn gweithdy ymarferol ar ddefnyddio DA i gefnogi dylunio tasgau asesu
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd genych:
- gwell dealltwriaeth
- offer ymarferol y gallwch eu defnyddio ar unwaith
- mwy o hyder i defnyddio DA mewn ffyrdd sy'n gyfrifol, yn cydymffurfio ac yn cefnogi ymarfer asesu o ansawdd uchel
Pwysig:
- Er y bydd offer DA yn cael eu defnyddio'n ymarferol yn ystod y sesiwn, ni ddylid mewnbynnu data personol na gwaith dysgwyr i unrhyw offer DA ar unrhyw adeg.
Mae hwn yn gwrs heb ei achredu ond byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb.