Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Gweminarau

Cymorth Ar-lein - Mynediad i Addysg Uwch

Dyddiad:
Dydd Mawrth 24/03/2026
Amser:
15:30 - 16:30
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Dim
Pris:
Di-dâl
Lleoedd ar gael:
47

Manylion

Mae Agored Cymru yn falch o wahodd cydlynwyr/rheolwyr Mynediad i AU a rheolwyr ansawdd i fynychu sesiwn Cymhorthfa Ar-lein Mynediad i AU.

Bydd y digwyddiad hwn yn darparu diweddariadau a datblygiadau pwysig, yn ogystal â chyfle i gryfhau dealltwriaeth gyffredin o ddarpariaeth a sicrhau ansawdd Mynediad i AU. 

Bydd y sesiwn yn cynnwys:

Diweddariadau cyffredinol Mynediad i AU: 

  • Y cynllun cydnabyddiaeth newydd MAU QAA
  • Newidiadau i’r broses casglu data cyrchfannau dysgwyr ac amserlenni
  • Newidiadau i’r cyfnod cofrestru gofynnol ar gyfer Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru

Llawlyfr Canolfan Mynediad i AU:

  • I’w rannu gydag arweinwyr Mynediad i AU canolfannau ar gyfer ymgynghori cyn ei gyhoeddi ym mis Medi 2026.
  • Canllaw cynhwysfawr i’r Diploma fel y’i goruchwylir gan Agored Cymru, yn cefnogi dealltwriaeth well o asesu, sicrhau ansawdd, a gofynion gweinyddol

Datblygiad Mynediad i AU:

  • Diploma MAU newydd arfaethedig (Y Gyfraith a Throseddeg)

Cynhadledd Mynediad i AU 2026

  • Dyddiad dros dro - 5 Mehefin yng Nghanolfan Adnoddau’r Cyfryngau (MRC), Llandrindod
  • Yn canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial, partneriaethau addysg uwch, a dyfodol y Diploma Mynediad i Addysg Uwch yng Nghymru a thu hwnt.

Gofynion ar gyfer cymedroli allanol a byrddau dyfarnu terfynol 

Mae’r sesiwn hon yn gyfle pwysig i aros yn wybodus, cyfrannu at ddatblygiadau sydd i ddod, ac ymgysylltu â chydweithwyr ar draws rhwydwaith Mynediad i AU Agored Cymru.

Cyfranogwyr

Canolfannau Mynediad i Addysg Uwch

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Victor Morgan

Victor yw’r Rheolwr Mynediad i Addysg Uwch ac mae’n arwain ar yr holl agweddau sy’n ymwneud â Diploma Mynediad i Addysg Uwch Agored Cymru.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau Bwcio