Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Gwella Arfer Sicrhau Ansawdd Mewnol

Dyddiad:
Dydd Iau 26/02/2026
Amser:
13:30 - 16:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
£150
Lleoedd ar gael:
10

Manylion

Cynulleidfa: Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol (SAM), Arweinwyr SAM ac aseswyr profiadol sy’n symud ymlaen i rolau SAM.

Mae’r sesiwn datblygiad proffesiynol rhyngweithiol 2.5 awr hon wedi’i chynllunio i gryfhau gwybodaeth ac ymarfer swyddogion SAM yn unol â safonau Agored Cymru.  Bydd y cynrychiolwyr yn archwilio sut i gymhwyso dulliau seiliedig ar risg i samplu, cynhyrchu adroddiadau SAM gwerthusol a seiliedig ar dystiolaeth, a darparu adborth datblygiadol sy’n cefnogi gwelliant a chysondeb aseswyr mewn penderfyniadau asesu.

Trwy weithgareddau ymarferol, astudiaethau achos, a thrafodaeth, bydd cyfranogwyr yn magu hyder wrth ymgorffori arsylwadau o fewn samplu, gan gymhwyso technegau sicrhau ansawdd cyfannol, a pharatoi’n effeithiol ar gyfer sicrhau ansawdd allanol (SAA). 

Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cyfranogwyr yn gallu:

• Cymhwyso egwyddorion samplu sy’n seiliedig ar risg i lywio cynllunio SAM

• Ysgrifennu adroddiadau SAM clir, gwerthusol gyda barnau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chamau gweithredu CAMPUS

• Darparu adborth adeiladol sy’n hyrwyddo datblygiad aseswyr ac yn cynnal safonau asesu 

• Integreiddio arsylwadau aseswyr yn effeithiol o fewn y broses SAM.

• Dangos parodrwydd ar gyfer SAA trwy ddogfennaeth effeithiol ac arfer sicrhau ansawdd 

Mae’r sesiwn hon yn cynnig canllawiau ymarferol, arfer gorau a rennir ac offer i wella hyder, cysondeb ac ansawdd o fewn prosesau gwirio mewnol

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Wynne Roberts

Telerau ac Amodau Bwcio