Bydd y fforwm canolfannau Mynediad i AU yn cael ei gynnal ar-lein a gwahoddir holl ymarferwyr Mynediad i AU yng nghanolfannau Mynediad i AU Agored Cymru i fynychu. Bydd y fforwm yn rhoi cyfle i ganolfannau i drafod a rhannu arfer da mewn perthynas â chyflwyno, asesu a sicrhau ansawdd y Diploma Mynediad i AU.Yn benodol, bydd y fforwm yn adolygu’r paratoadau sydd wedi digwydd ar draws canolfannau i sefydlu’r cynllun graddio Mynediad i AU newydd.Gofynnir i ganolfannau rannu sut y bydd y safonau graddio newydd yn effeithio ar eu harferion asesu a phrosesau sicrhau ansawdd mewnol.
Mae’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol wedi dod yn fwyfwy amlwg yn y flwyddyn academaidd gyfredol.Rydym yn awyddus i glywed gan ganolfannau am y ffyrdd y mae wedi cael ei ddefnyddio i gefnogi ymarferwyr a dysgwyr a sut mae wedi arwain at unrhyw achosion o gamarfer academaidd.Rydym wedi nodi arfer da yn y ffordd y mae rhai canolfannau wedi mynd i’r afael â’r materion hyn a byddwn yn gofyn iddynt drafod y prosesau y maent wedi’u dilyn a sut yr arweiniodd hyn at ganlyniadau teg a chadarn.
Bydd y fforwm hefyd yn rhoi cyfle i drafod gofynion Agored Cymru sy’n gysylltiedig ag ymchwiliadau ac adrodd cyffredinol ar gamarfer a chamweinyddu mewn perthynas â’r Diploma Mynediad i AU.