Hoffwn estyn croeso cynnes i chi i gyfarfod Rhwydwaith Ysgolion Agored Cymru Gogledd-Orllewin Cymru.
Mae’r Rhwydwaith Ysgolion yn gyfle arbennig ar gyfer ysgolion a chanolfannau sy’n darparu Cymwysterau Craidd Dysgu Agored Cymru neu sydd a diddordeb mewn darparu cymwysterau Agored Cymru yn y dyfodol. Bydd y ffocws ar ehangder ein Cymwysterau Craidd Dysgu a gwahanol ddulliau cyflwyno o fewn y cwricwlwm; cyflwyniad i asesu a datblygu adnoddau mewn cyd-berthynas â Chymwysterau Craidd Dysgu; prosesau sicrhau ansawdd effeithiol ar gyfer ysgolion; adnabod arferion arweiniol a rhannu canfyddiadau adroddiad panel sicrwydd ansawdd allanol a chymedroli a gwersi i’w dysgu; cyflwyniad i weinyddiaeth a phrosesau Agored Cymru; trafodaeth broffesiynol a sefydlu cymuned ddysgu ynghyd ac edrych ymlaen i’r dyfodol a’n siwrne ni fel Corff Dyfarnu hyd yma yn cynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.
Rhwydwaith Ysgolion Gogledd Orllewin Cymru – Dydd Gwener, Ebrill 19eg, 2024 yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog rhwng 10 a 12 o’r gloch y bore.
If you require additional information about the event or Agored Cymru’s suite of qualifications then please don’t hesitate to contact me Eryl.ParryJones@agored.cymru.