Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Eryl Ann Parry Jones

Mae Eryl yn arbenigwr addysg profiadol ac mae ganddi wybodaeth drylwyr ym meysydd sicrhau ansawdd allanol, Cymraeg i Oedolion, dwyieithrwydd, gwaith Ieuenctid, entrepreneuriaeth a chyngor ac arweiniad.

Cymraeg Siaradwr Cymraeg

Ymunodd Eryl ag Agored Cymru yn 2013 fel Rheolwr Ansawdd.  

Ar hyn o bryd, mae Eryl yn gyfrifol am gynllunio a sicrhau ansawdd allanol ar ran canolfannau, gan fonitro eu cynnydd, cefnogi eu dulliau cynllunio'r cwricwlwm a darparu hyfforddiant i sicrhau bod ansawdd ar flaen y gad yn unol â'r gofynion rheoleiddio.

Cyn ymuno ag Agored Cymru, treuliodd Eryl dros ddeng mlynedd gyda Gyrfa Cymru fel Cydlynydd Datblygu, enillodd ei chymhwyster NVQ Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad, chwaraeodd rôl arweiniol ym maes dysgu a hyfforddi gyrfaoedd, cyflwynodd weithdai cymhelliant, hyrwyddodd entrepreneuriaeth mewn ysgolion a cholegau a bu'n gysylltiedig â rheoli prosiectau ac achredu.

Mae Eryl yn siarad Cymraeg yn rhugl.

Cysylltwch â Eryl Parry Jones.