Sesiwn Briffio Ymarferwyr Mynediad i AU
O 1 Awst 2024, bydd y cynllun graddio Mynediad i AU yn newid fel a ganlyn:
- Bydd y saith Disgrifydd Gradd presennol yn cael eu disodli gan dair safon raddio a fydd yn cael eu cymhwyso’n gyfartal i bob uned ac ar draws pob asesiad
- Dim ond ar ôl cwblhau holl ganlyniadau dysgu’r uned y gellir pennu graddau ac nid ar lefel asesiadau unigol
Mae Agored Cymru wedi trefnu sesiynau briffio ar-lein a fydd yn rhoi trosolwg manwl i ymarferwyr ynghylch y newidiadau i gynllun graddio Diploma Mynediad i AU. Rydym yn argymell yn gryf bod y rhai sy’n gyfrifol am gyflwyno, asesu a/neu sicrhau ansawdd Diplomâu Mynediad i AU yn fewnol yn mynychu sesiwn friffio gan Agored Cymru ar y newidiadau hyn. Er mwyn sicrhau bod yr holl ymarferwyr yn gallu mynychu sesiwn friffio, mae nifer o sesiynau wedi’u hamserlennu er mwyn iddynt allu mynychu ar yr amser sydd fwyaf cyfleus.
Cofiwch archebu lle ar y dyddiad sydd orau gennych.
Mae’r cynllun graddio a’r dogfennau ategol ar gael ar wefan QAA.