Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Dyfarniad Lefel 4 mewn Deall y gwaith o Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol

Dyddiad:
Dydd Mawrth 01/08/2023
Amser:
13:00 - 16:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
£375
Lleoedd ar gael:
0

Manylion

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar Microdoft Teams

Sesiwn 1 - Dydd Mawrth 1af of Awst 2023 13:00-16:00

Sesiwn 2 - Dydd Mawrth 8fed of Awst 2023 13:00-16:00

Sesiwn 3 - Dydd Mawrth 15fed of Awst 2023 13:00-16:00

Sesiwn 4 - Dydd Mawrth 22ain of Awst 2023 13:00-16:00

Bwriadwyd y cymhwyster ar gyfer y rheini sy’n dechrau ar eu rôl sicrhau ansawdd mewnol neu’r rheini sydd angen ennill cymhwyster mewn sicrhau ansawdd mewnol, neu’r rheini sydd angen gwybod mwy am sicrhau ansawdd mewnol ond nad ydynt yn sicrhau ansawdd eu hunain. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn i ymgymryd â’r cymhwyster.

Argymhellir bod gennych gymhwyster perthnasol mewn asesu a/neu rywfaint o brofiad o asesu/sicrhau ansawdd mewnol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster hwn cyn archebu lle, cysylltwch â digwyddiadau@agored.cymru.

Bydd gofyn i chi fynychu pedair sesiwn hanner diwrnod lle byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i gyflawni sicrwydd ansawdd asesu mewnol. Rhaid mynychu pob sesiwn.

Cyfle Datblygu

Sylwch os gwelwch yn dda: Mae archebu lle yn yr hyfforddiant hwn yn cadarnhau eich bod wedi archebu lle ar y Lefel 4 Deall Egwyddorion ac Arferion Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol GB84CY002 YN UNIG. 

Yn dilyn cwblhau'r uned Deall egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol GB84CY002, byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â'r uned Sicrhau Ansawdd Asesu yn Fewnol GB84CY003.  

Bydd cyflawni'r ddwy uned yn llwyddiannus yn rhoi i chi Lefel 4 Mewn Sicrhau Ansawdd Prosesau ac Arferion Asesu yn Fewnol Cymhwyster (agored.cymru). Bydd hyn am gost a gofynion mynediad ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at digwyddiadau@agored.cymru

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Nicol Rippon

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau