Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Egwyddorion ac Ymarfer Asesu

Dyddiad:
Dydd Iau 20/10/2022
Amser:
10:00 - 13:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
£375
Lleoedd ar gael:
6

Manylion

Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein ar Microdoft Teams

Sesiwn 1 Dydd Iau 20fed Hydref 10:00:13:00

Sesiwn 2 Dydd Iau 27ain Hydref 10:00:13:00

Sesiwn 3 Dydd Iau 3ydd Tachwedd 10:00:13:00

Sesiwn 4 - Dydd Iau 10fed Tachwedd  10:00:13:00

Bwriadwyd y cymhwyster ar gyfer y rhai sydd angen dealltwriaeth o egwyddorion ac arferion asesu heb unrhyw ofyniad i ymarfer fel aseswyr. Dyfarniad gwybodaeth yn unig yw hwn i’r rheini sy’n dechrau ar eu taith fel asesydd, neu’r rheini sydd angen gwybod am arferion asesu ond nad ydynt yn ymarfer ar hyn o bryd.

Argymhellir eich bod wedi mynychu hyfforddiant Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster hwn cyn archebu lle, cysylltwch â digwyddiadau@agored.cymru.

Bydd gofyn i chi fynychu pedair sesiwn hanner diwrnod lle byddwch yn datblygu'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth sydd eu hangen i asesu. Rhaid mynychu pob sesiwn.

Cyfle Datblygu

Sylwch os gwelwch yn dda: Mae archebu lle yn yr hyfforddiant hwn yn cadarnhau eich bod wedi archebu lle ar y Deall egwyddorion ac arferion asesu Uned (agored.cymru) YN UNIG. 

Yn dilyn cwblhau'r uned Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu Uned (agored.cymru), byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â'r uned Asesu Sgiliau, Gwybodaeth a Dealltwriaeth Galwedigaethol Uned (agored.cymru).

Bydd cyflawni'r ddwy uned yn llwyddiannus yn rhoi i chi Lefel 3 Agored Cymru Mewn Asesu Cyrhaeddiad sy’n Gysylltiedig â Galwedigaeth Cymhwyster (agored.cymru). Bydd hyn am gost a gofynion mynediad ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth anfonwch e-bost at digwyddiadau@agored.cymru

 

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Wynne Roberts

...
Darllen mwy

Telerau ac Amodau