Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Dyddiad:
Dydd Mercher 27/10/2021
Amser:
10:00 - 12:30
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
OES - Gweler manylion isod
Pris:
£75
Lleoedd ar gael:
2

Manylion

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr a hanner rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer yr hyfforddiant.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:

  • deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;
  • deall rôl y swyddogion sicrhau ansawdd menwol;
  • dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; ac yn
  • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn fewnol yn effeithiol.(Cyfeiriwch at y canllaw cymhwyster perthnasol i wirio gofynion penodol ar gyfer aseswyr)

Sylwch: i fod yn gymwys i fynychu'r cwrs hwn, mae'n rhaid i chi fod naill ai:
       a) â phrofiad o asesu; neu fod
       b) wedi mynychu cwrs Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Mae hwn yn gwrs heb ei achredu ond byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb.

Cyfranogwyr

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer staff unrhyw ganolfan cydnabyddedig Agored Cymru sydd yn newydd i sicrhau ansawdd mewnol unedau/cymwysterau Agored Cymru neu fel cwrs gloywi ar gyfer swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol Agored Cymru nad ydynt wedi cynnal gweithgareddau sicrhau ansawdd mewnol yn ddiweddar.

Mae canolfannau cymeradwy newydd yn gymwys i gael cyfanswm o 4 lle am ddim ar y sesiynau Cyflwyniad i Asesu neu Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol (neu gyfuniad o’r ddau) ac mae’n rhaid eu defnyddio o fewn y 12 mis cyntaf.

 

Telerau ac Amodau