Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cyflwyniad i Sicrhau Ansawdd Mewnol

Dyddiad:
Dydd Iau 27/08/2020
Amser:
10:00 - 12:00
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
OES - Gweler manylion isod
Pris:
£50
Lleoedd ar gael:
0

Manylion

Bydd hwn yn sesiwn dwy awr rhyng-weithiol yn cynnig cyflwyniad i egwyddorion ac arferion sicrhau ansawdd mewnol.  Bydd yn ofynnol cwblhau gweithgaredd byr cyn y cwrs fydd yn gymorth i chi baratoi ar gyfer yr hyfforddiant.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:

  • deall egwyddorion sylfaenol sicrhau ansawdd mewnol;
  • deall rôl y swyddogion sicrhau ansawdd menwol;
  • dysgu sut i gofnodi canlyniadau sicrhau ansawdd mewnol; ac yn
  • meddu ar y sgiliau sydd eu hangen i ddilysu unedau a chymwysterau Agored Cymru yn fewnol yn effeithiol.

Sylwch: i fod yn gymwys i fynychu'r cwrs hwn, mae'n rhaid i chi fod naill ai:
       a) â phrofiad o asesu; neu fod
       b) wedi mynychu cwrs Cyflwyniad i Asesu Agored Cymru.

Cyfranogwyr

Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw staff canolfannau y mae sicrhau ansawdd menwol yn newydd iddynt.

Mae gan ganolfannau cydnabyddedig newydd yr hawl i gael 4 le am ddim mewn hyfforddiant, i’w defnyddio yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl ennill statws canolfan gydnabyddedig.

Mae modd archebu lleoedd ychwanegol cyn belled ag y bo rhai ar gael am gost o £50 y person.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Clare Llewellyn

Ymunodd Clare ag Agored Cymru yn 2017 fel Aelod Cyswllt cyn dod yn Swyddog Ansawdd, Rheoleiddio a Datblygiad Proffesiynol, gan ddod â chyfoeth o brofiad yn cyflwyno hyfforddiant ac asesu amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau