Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Clare Llewellyn

Ymunodd Clare ag Agored Cymru yn 2017 fel Aelod Cyswllt cyn dod yn Swyddog Ansawdd, Rheoleiddio a Datblygiad Proffesiynol, gan ddod â chyfoeth o brofiad yn cyflwyno hyfforddiant ac asesu amrywiaeth eang o gyrsiau achrededig ar draws y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Yn raddedig o Brifysgol Abertawe, mae Clare wedi gweithio ym maes Adnoddau Dynol yn Llundain a De Cymru gan ei harwain i gychwyn ar yrfa mewn addysg a dysgu gydol oes.

Ar ôl cwblhau cwrs TAR, bu Clare yn gweithio am dros naw mlynedd fel darlithydd yng Ngholeg Morgannwg. Cyflwynodd ac asesodd Clare ystod eang o gyrsiau sgiliau sylfaenol a chyflogadwyedd i oedolion, gan dargedu'r rheini o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol gan ddarparu sesiynau mewn lleoliadau cymunedol ar draws Rhondda Cynon Taf. Fe wnaeth Clare hefyd gyflwyno ac asesu hyfforddiant ymarferwyr Sgiliau Sylfaenol ar gyfer sefydliadau allanol.

Mae Clare hefyd wedi treulio amser fel Tiwtor Dysgu Teulu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf cyn ennill profiad yn y trydydd sector, yn gyntaf gyda Gingerbread, lle canolbwyntiodd ar ymgysylltu â'r gymuned a chyflwyno cyrsiau achrededig i rieni sengl. Treuliodd Clare amser gydag Ymddiriedolaeth y Tywysog yn gweithio gyda'r Tîm Rheoli Gweithredol, cyn dychwelyd i addysg a hyfforddiant, yn dylunio a chyflwyno hyfforddiant gwella ansawdd.