Fel sefydliad dyfarnu, rhaid i Agored Cymru, yn unol â chyfraith cydraddoldeb, fod â threfniadau clir yn eu lle ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol yng nghyswllt y cymwysterau yr ydym yn eu darparu.
Pan fydd asesiadau’n cael eu cyflawni a dyfarniadau'n cael eu gwneud gan Ganolfan, mae’n bwysig i staff fod yn ymwybodol o’r amodau rheoleiddiol cysylltiedig; y meini prawf cymhwysedd ar gyfer addasiadau rhesymol, a sut i gymhwyso dulliau priodol o wneud addasiadau rhesymol i’r broses asesu mewn modd sy’n cydymffurfio.
Mae'r cwrs hwn yn archwilio’r polisi a’r gweithdrefnau a sut i gymhwyso addasiadau rhesymol mewn tasgau asesu sy’n sicrhau canlyniadau ystyrlon; yn galluogi’r asesydd i wahaniaethu’n gywir; yn ymarferol i ganolfannau eu cyflwyno ac yn cymell dysgwyr i wneud eu gorau.
Mae hwn yn gwrs lle bydd galw ar gyfranogwyr i chwarae rhan sylweddol, ac mae’n addas ar gyfer staff canolfannau sy’n cyflwyno, asesu neu’n sicrhau ansawdd yn fewnol o ran cymwysterau neu unedau Agored Cymru.