Crynodeb:
Adnoddau digidol y gellir eu defnyddio unrhyw bryd yn unrhyw le i wella'r broses asesu a’ch gwybodaeth a’ch ymarfer addysgol a galwedigaethol eich hun. Gan ganolbwyntio ar weithio’n gallach a chynyddu eich cynhyrchiant eich hun, bydd y gweithdy hwn yn rhoi'r cyfle i gynrychiolwyr ddefnyddio adnoddau nad ydynt, efallai, wedi eu defnyddio o’r blaen.
Canlyniadau Dysgu:
Erbyn diwedd y sesiwn, bydd cynrychiolwyr wedi cael cyfle i:
Archwilio ffyrdd gwahanol o gofnodi tystiolaeth yn ddigidol, gan gynnwys defnyddio adnodd WeVideo Google a Google Hangouts yn ogystal ag offer recordio llais digidol a sut i bennu amserlen ar sail meini prawf cymhwyster.
Archwilio adnoddau digidol sy'n annog “dysgu gwrthdro”, gan ddefnyddio Google (G Suite) a fydd yn rhoi eich dysgwyr ar ben y ffordd cyn y byddant yn eich gweld, er mwyn eich galluogi i ddefnyddio’r amser rydych yn ei gael gyda’ch gilydd i ganolbwyntio ar roi cefnogaeth iddynt â’u hanghenion unigol.
Beth i ddod gyda chi i’r cwrs
Dyfais Ddigidol – ffôn symudol, tabled neu liniadur
Adnoddau digidol – Mynediad at gyfrif Google. Bydd angen trefnu hyn cyn dechrau'r cwrs.