Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Ros Protheroe

Mae Ros wedi bod yn gweithio yn y sector Dysgu seiliedig ar Waith ers 19 mlynedd.

Dechreuodd ei gyrfa fel Tiwtor TG yn helpu oedolion yn ôl i fyd gwaith, gan ennill TAR mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn 2005. Ers hynny mae hi wedi cyflawni sawl rôl, gan gynnwys Hyfforddwr Arweiniol TG, Dilysydd Mewnol, Rheolwr Ansawdd ac Uwch Reolwr Ansawdd.  Am sawl blwyddyn, hi oedd Rheolwr Datblygiad a Dysgu Staff un o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith mwyaf Cymru ble roedd yn cynllunio ac yn cydlynu gweithgareddau datblygu ar gyfer dros 300 o staff, gan ganolbwyntio ar addysgu, dysgu ac asesu creadigol ac arloesol.

Ym mis Awst 2016, fe wnaeth Ros lansio Panda Education & Training gyda’i phartner busnes a chyn-gydweithwraig, Rachel Arnold, er mwyn darparu gweithgareddau datblygiad proffesiynol o ansawdd uchel i ymarferwyr galwedigaethol. Prif ffocws a diddordeb Ros yw sicrhau bod addysgwyr galwedigaethol yn cael y cymorth a'r gefnogaeth iawn i ddarparu’r hyfforddiant gorau a mwyaf arloesol a chreadigol posibl.   Ar hyn o bryd, mae hi’n ymgymryd â Gradd Meistr mewn Addysg, gan ymchwilio i effaith arsylwadau ar ansawdd addysgu.