Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant a DPP

Cefnogi Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol (EES) Asesu

Dyddiad:
Dydd Iau 08/06/2017
Amser:
09:30 - 13:00
Lleoliad(au):
Agored Cymru - Llanisien
Cyfyngiadau:
Mae gan y cwrs yma fodel codi t?l arbennig, gweler manylion y digwyddiad
Lleoedd ar gael:
13

Manylion

 

 

Mae’r digwyddiad hyfforddi hwn wedi'i gynllunio i gefnogi’r rheini sy'n ymwneud â chyflwyno ac asesu’r cymhwyster Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Caiff y cymhwyster Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol (EES) ei asesu drwy dasg dan reolaeth a thrafodaeth wedi'i strwythuro. Mae’r hyfforddiant hwn yn ystyried ffyrdd o reoli a chyflwyno tystiolaeth yn yr asesiad, a sut mae cynnal trafodaeth wedi'i strwythuro er mwyn rhoi cyfle i’r holl ymgeiswyr ddangos eu sgiliau.

Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim i’r rheini sy’n darparu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy Agored Cymru.

Mae croeso i gynrychiolwyr ddod i’r digwyddiad o ganolfannau Agored Cymru sydd ddim yn darparu Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar hyn o bryd; bydd yn costio £150 y pen.

Mae’r hyfforddiant ar gael i ganolfannau sydd ddim yn rhai Agored Cymru hefyd; bydd yn costio £250 y pen.

Os hoffech chi drafod yr opsiwn o gynnig unrhyw un o’r Cymwysterau Sgiliau Hanfodol drwy Agored Cymru, cysylltwch â ni ar esw@agored.cymru

Cyfranogwyr

Mae’r digwyddiad hyfforddi hwn wedi'i gynllunio i gefnogi’r rheini sy'n ymwneud â chyflwyno ac asesu’r cymhwyster Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Karen Workman

Mae gan Karen flynyddoedd lawer o brofiad yn dysgu mewn Addysg Bellach ac Uwch, gan arbenigo mewn Sgiliau Hanfodol, Dysgu fel Teulu a hyfforddiant athrawon. Mae hi wedi cyflwyno seminarau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan rannu arbenigedd mewn Rhifedd Oedolion a Llythrennedd Digidol.
Darllen mwy

Telerau ac Amodau