Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Karen Workman

Mae gan Karen flynyddoedd lawer o brofiad yn dysgu mewn Addysg Bellach ac Uwch, gan arbenigo mewn Sgiliau Hanfodol, Dysgu fel Teulu a hyfforddiant athrawon. Mae hi wedi cyflwyno seminarau mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, gan rannu arbenigedd mewn Rhifedd Oedolion a Llythrennedd Digidol.

Yn ddiweddar mae Karen wedi gweithio fel ymgynghorydd ar ran Llywodraeth Cymru i ddylunio, mireinio a chyflwyno Egwyddorion Dylunio Llythrennedd Digidol ar draws y sector ôl-16 yng Nghymru. Mae hi wedi gweithio ar offeryn cychwynnol a diagnostig  sydd wedi’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, cyflwynodd y Dystysgrif gyntaf ar gyfer Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol (Llythrennedd Digidol) ac mae hi wedi cynghori Cyrff Dyfarnu ar ddeunydd asesu crynodol Dyfarnu. Mae Karen hefyd wedi gweithio ochr yn ochr â Colegau Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i hyrwyddo ymwybyddiaeth sy'n ymwneud â newidiadau i gymwysterau ac Atal - Deddf Gwrthderfysgaeth a'r dyletswyddau sy'n wynebu darparwyr ôl-16.

Mae Karen yn credu'n gryf mewn arwain drwy esiampl, gan sicrhau bod ei bod yn defnyddio technegau addysgu cydweithredol, sy'n seiliedig ar ddulliau dysgu heriol wrth gyflawni popeth.