Er mwyn ennill y cymhwyster EAoNS, mae’n rhaid i ymgeiswyr gynllunio sut y byddant yn cyflawni tasg benodol, gan gynnwys dehongli data rhifiadol a dewis o ddulliau cyfrifo. Bydd angen iddynt hefyd gyflwyno canlyniadau eu cyfrifiadau a llunio casgliadau o’u canfyddiadau.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn archwilio sut mae modd helpu dysgwyr i ddarparu tystiolaeth o gynllunio, a sut mae cyflwyno a gwerthuso eu canlyniadau. Bydd hefyd yn ystyried asesu’r dasg, gan gynnwys tystiolaeth ddigonol.
Cost
- Canolfannau Agored Cymru sydd yn ddefnyddio ein darpariaeth sgiliau hanfodol - Am ddim
- Canolfannau Agored Cymru ond nad ydynt yn defnyddio ein sgiliau hanfodol - £ 75.00 (fesul person)
- Canolfannau sydd ddim yn gweithio o gwbwl gyda Agored Cymru - £ 150.00 (fesul person)
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i ganolfannau sydd ddim yn gofrestredig gydag Agored Cymru.
I archebu a thalu am eich lle anfonwch e-bost i digwyddiadau@agored.cymru