Bwriad adolygu unedau ydy gwella ansawdd a safonau ein hunedau sy'n eistedd tu allan i gymwysterau.
Mae’n gwneud yn siŵr bod holl gynnwys ein hunedau yn gyfredol, yn berthnasol ac yn addas ar gyfer y diben.
I’r Broses
Mae tri cham i'r broses adolygu:
Dosbarthwyd unedau yn garfannau a threfnwyd i'w hadolygu. Pan fydd carfan adolygu yn destun ymgynghoriad, yna gwahoddir ganolfannau a rhanddeiliaid eraill i roi sylwadau ar gynnwys yr unedau. Bydd Canolfannau’n cael gwybod pa unedau penodol yn eu fframwaith sy’n perthyn i’r carfannau sy’n rhan o ymgynghoriad.
Codau Lliw
Mae pob uned yn cael cod lliw i nodi cam neu ganlyniad yr adolygiad.
- MELYN: ar y cam ymgynghori neu werthuso
- COCH: i'w dirwyn i ben
- GWYRDD: wedi’i chymeradwyo
Lle nad oes gan uned god lliw, bydd yn rhan o garfan adolygu yn y dyfodol.
Dosbarthiadau
CYMERADWYO: Cymeradwyo. Mae un neu fwy o ganolfannau wedi dweud bod yr uned yn addas ar gyfer y diben, yn gyfredol a bod ei chynnwys yn briodol ar gyfer y lefel a'r credyd.
DIRWYN I BEN: Ddim yn addas ar gyfer y diben. Barnwyd nad yw'r uned yn addas ar gyfer y diben - bydd y rheswm am hyn wedi’i nodi yn y sylwadau. Nodir os oes uned newydd yn cael ei llunio yn ei lle.
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch ag productdevelopment@agored.cymru.