Mae'r cam hwn yn y broses adolygu yn dilyn y cam ymgynghori. Gweler yr amserlen i weld dyddiadau carfannau unigol.

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn diwygio unedau presennol lle gofynnwyd am hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori.  Wrth i unedau newydd gael eu datblygu byddant yn cael eu hychwanegu at y garfan berthnasol. 

Rhaid i ganolfannau gysylltu â ni os ydynt yn dymuno trafod y bwriad i ddirwyn uned i ben neu os hoffent gyfrannu at ddiwygio’r uned. Os yw canolfan yn fodlon i gymeradwyo; gyda’r diwygiadau; neu i ddirwyn uned i ben, yna nid oes angen iddynt wneud dim. 

Yn ystod y cam hwn, mae unedau’n cael eu rhoi yn un o'r dosbarthiadau canlynol:

CYMERADWYO: Barnwyd fod yr uned yn addas i’r diben, neu bydd yn destun mân newidiadau.

DIRWYN I BEN: Ddim yn addas ar gyfer y diben. Barnwyd nad yw'r uned yn addas ar gyfer y diben - bydd y rheswm am hyn wedi’i nodi yn y sylwadau. Nodir os oes uned newydd yn cael ei llunio yn ei lle. Gall uned hefyd gael ei ddirwyn i ben os na fu cofrestriadau am gyfnod sylweddol o amser.

Carfannau/Unedau

Gall canolfannau ddarllen y sylwadau ar bob uned drwy glicio ar y garfan berthnasol isod.