Mae canolfannau yn gallu gofyn am ddatblygu uned newydd drwy gyflwyno ffurflen Datblygu Uned Newydd Cychwynnol wedi ei llenwi.

Bydd aelod o dîm Datblygu Cwricwlwm Agored Cymru yn asesu angen a phriodoldeb y cynnig ac yn cadarnhau drwy e-bost. Bydd y cadarnhad i fwrw ymlaen hefyd yn cynnwys y costau cysylltiedig, y bydd angen i gyswllt y ganolfan ddynodedig gytuno arnynt.


Adborth Cychwynnol

Byddwn yn cynnal archwiliad cychwynnol o'r uned arfaethedig newydd, ac yn rhoi ein hadborth.

Bydd yn rhaid mynd i'r afael â'r adborth hwn  cyn ailgyflwyno'r uned i'w chymeradwyo.  


Adborth Darllenwyr

Pan fydd yr uned gychwynnol yn bodloni'r safonau gofynnol, caiff ei hanfon i gael rhagor o adborth.

Byddwn yn trafod ac yn cytuno ar unrhyw adborth â'r ganolfan cyn anfon yr uned i'w chymeradwyo.


Cymeradwyo'r Uned

Ar ôl i'r broses ailadroddus gael ei chwblhau, dyrennir god i'r uned a bydd yn cael ei hychwanegu at fframwaith y ganolfan.


Rhagor o Wybodaeth

Cysylltwch â:  unedau.newydd@agored.cymru