Cyflwyno a Dyfarnu Cymwysterau - Gorffenaf 2024
Fel corff dyfarnu sy’n gweithio hefo canolfannau sy’n destun Safonau’r Gymraeg, mae’n ofynnol i Agored Cymru ddarparu mecanwaith i ganolfannau i’w galluogi i roi gwybod iddo am unrhyw ddysgwyr sy’n dymuno dilyn cymhwyster yn y Gymraeg.
O 1af Medi 2024, mae gan Agored Cymru ddyletswydd reoleiddiol i ddarparu mecanwaith i bob canolfan gofnodi a chyflwyno data ar ddewis iaith Dysgwr. Mae hyn yn ymwneud â phob cymhwyster a phob uned a reoleiddir.
Mae Agored Cymru wedi cynnwys nodweddion ar ei wefan a’i systemau a fydd yn galluogi canolfannau i nodi iaith asesu a ffafrir gan ddysgwyr ar adeg cofrestru ac ar adeg hawlio canlyniadau.
Bydd y bwletin hwn yn rhoi gwybodaeth ac arweiniad ychwanegol i ganolfannau: Cymraeg | Saesneg
Rhannu'r digwyddiad hwn
Tags