Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Shirley Hudson

Ymunodd Shirley â thîm Agored Cymru yn 2014 fel aelod cyswllt o staff cyn dod yn Swyddog Datblygu Cwricwlwm.

Mae gan Shirley brofiad helaeth o addysgu a hyfforddi yn y sector addysg ôl-16 - Dysgu Oedolion a'r Gymuned, Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith.  Mae hi wedi addysgu a threfnu cefnogaeth i ddysgwyr sy’n astudio ar raglenni cyn-mynediad i lefel 3, e.e. sgiliau hanfodol, sgiliau byw a chyflogadwyedd, ac mae hi wedi bod yn gyfrifol am sicrhau ansawdd yn fewnol, cydlynu'r ddarpariaeth cefnogaeth dysgu a datblygu hyfforddiant i ymarferwyr.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn ysbrydoli Shirley, ac mae hi’n aelod brwd o Rwydweithiau Rheolwyr Sgiliau Hanfodol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol Colegau Cymru; mae hi hefyd yn un o aelodau gwreiddiol Panel Sgiliau Hanfodol Cymru. 
Mae ganddi gymwysterau addysgu arbennig a chefnogi dysgwyr ac mae hi wedi derbyn Gwobr NIACE Inspire ar gyfer Tiwtor y Flwyddyn am ei gwaith ym maes Addysg Sylfaenol i Oedolion.

Mae Shirley’n adnabyddus iawn ac yn uchel ei pharch ledled Cymru am ei gwaith ym maes sgiliau hanfodol.