Methu â dod o hyd i'r math priodol o ddigwyddiad neu hyfforddiant? Cysylltwch â ni gyda maes datblygu sy'n bwysig i chi a byddwn yn ymchwilio iddo.

Hyfforddiant Aseswyr

Gwella Arfer Asesu

Dyddiad:
Dydd Iau 10/09/2026
Amser:
10:00 - 12:30
Lleoliad(au):
Ar-Lein
Cyfyngiadau:
Pris:
£150
Lleoedd ar gael:
13

Manylion

Trawsnewidiwch Eich Arferion Asesu

Datglowch botensial eich proses asesu gyda chwrs Gwella Arfer Asesu Agored Cymru. Wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer Aseswyr, Swyddogion Sicrhau Ansawdd Mewnol (SAM), ac Arweinwyr Canolfannau, mae’r sesiwn ddwys 2.5 awr hon yn rhoi'r offer sydd eu hangen i symud y tu hwnt i gydymffurfiaeth ac at ymarfer sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Pam ddylech chi fynychu?

Wedi'i gyflwyno gan Swyddogion Sicrhau Ansawdd Allanol (SAA) profiadol, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle unigryw i dderbyn mewnwelediadau gan y rhai sydd yn monitro safonau cenedlaethol. Byddwch yn derbyn arweiniad arbenigol ar fodloni holl ofynion Agored Cymru, fel y nodir yn y Canllaw i Asesu, gan sicrhau bod eich canolfan yn barod ar gyfer SAA a bod eich penderfyniadau asesu yn gadarn.

Canlyniadau Dysgu Allweddol:

  • Cynllunio Effeithiol: Meistroli cynllunio asesu gan ddefnyddio templedi Agored Cymru i sicrhau cyflwyno cyson.
  • Dylunio Tasgau Effeithiol: Dysgu sut i alinio tasgau'n effeithiol gyda berfau gorchymyn, gan sicrhau dilysrwydd a chwmpas cyfannol.
  • Mynediad Teg Drwy Ddyluniad: Darganfod sut i leihau rhwystrau i gyrhaeddiad drwy ddefnyddio dulliau asesu arloesol sy'n canolbwyntio ar y dysgwr.
  • Casglu Tystiolaeth Ymarferol: Archwilio'r ffyrdd gorau o gasglu tystiolaeth o gymhwysedd gan ddefnyddio dulliau asesu megis fideo, sain, a chofnodion digidol.
  • Llywio Datblygiad Dysgwyr: Mireinio eich technegau adborth er mwyn darparu arweiniad penodol ac adeiladol sy’n ysgogi dysgwyr.

Rhagoriaeth Broffesiynol:

Mae ein hyfforddiant yn adnewyddu eich dealltwriaeth o'r egwyddorion craidd Dilys, Gwreiddiol, Dibynadwy, Cyfredol, a Digonol (VARCS) gan sicrhau bod eich asesiadau'n bodloni'r safonau a nodir yn y Canllaw Asesu. P'un a ydych yn archwilio dyluniadau asesu arloesol megis podlediadau a flogiau neu'n symleiddio eich strategaethau casglu tystiolaeth, mae’r sesiwn hon yn darparu'r gefnogaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch.

 

Ymunwch â’n swyddogion SAA i gryfhau eich arbenigedd a chyflawni canlyniadau o ansawdd uchel i bob dysgwr.

 Byddwch yn derbyn tystysgrif presenoldeb a’r cyflwyniad PowerPoint ar ôl  cwblhau’r hyfforddiant.  

 

Cefndir yr Arweinydd Digwyddiad

Wynne Roberts

Telerau ac Amodau Bwcio